Mae gan adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd gyfreithiol i amddiffyn plant a phobl ifanc o dan Adran 78 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni ymchwilio i'r holl honiadau o gam-drin neu bryderon ynghylch esgeulustod y rhoddir gwybod i ni amdanynt.

Os ydych yn amau bod plentyn yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu os dywed plentyn wrthoch ei fod yn cael ei gam-drin, ffoniwch 01495 762200 (neu 0800 328 4432 mewn argyfwng y tu allan i oriau swyddfa) gan ddweud mai atgyfeiriad Amddiffyn Plant sydd gennych. Os oes risg uniongyrchol o niwed i'r plentyn, ffoniwch yr heddlu.

Mae sawl math o gam-drin:

  • Esgeulustod
  • Cam-drin corfforol
  • Cam-drin rhywiol
  • Cam-drin emosiynol

Mae cam-drin domestig hefyd yn cael effaith niweidiol ar les plentyn.

Os ydych chi'n blentyn neu'n berson ifanc sy'n cael ei gam-drin, peidiwch â dioddef yn dawel. Dywedwch wrth rywun.

Pan gawn wybod am bryder, byddwn yn gwneud ymholiadau, gan ddechrau fel arfer trwy ymweld â'r plentyn a'r teulu. Fel rheol, gwneir hyn gyda'r heddlu.

Os oes pryderon y byddai ymweld â chartref y teulu'n peri mwy o risg o niwed i'r plentyn, byddwn yn gwneud ymholiadau i ddechrau ymhlith gweithwyr proffesiynol eraill a allai adnabod y plentyn a'i deulu, e.e. yr ysgol, ymwelydd iechyd neu nyrs ysgol, meddyg teulu, gweithiwr ieuenctid.

Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch diogelwch plentyn, peidiwch â'u cadw i chi'ch hun.

Gweithdrefnau Diogelu Cymru

Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gyfer plant ac oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod

Rhain yw’r Gweithdrefnau Diogelu Cenedlaethol i Gymru. Maent yn rhoi manylion am swyddogaethau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o ddioddef camdriniaeth ac esgeulustod.

Deddfwriaeth a chanllawiau

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill 2016. Mae’r Ddeddf yn darparu fframwaith cyfreithiol i wella llesiant pobl sydd angen gofal a chefnogaeth. Mae 11 Rhan i’r Ddeddf, gyda Rhan 7 yn ymwneud yn benodol â Diogelu. Dyma’r ddeddfwriaeth sydd yn rhoi’r fframwaith i Weithdrefnau Diogelu Cymru.

I gyd-fynd â’r Ddeddf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau diogelu statudol Gweithio gyda’n Gilydd i Ddiogelu Pobl.

Cynlluniwyd Gweithdrefnau Diogelu Cymru i alluogi ymarferwyr rheng-flaen a’u rheolwyr i gymhwyso gofynion a disgwyliadau deddfwriaethol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Y nod yw gwella deilliannau canoli ar yr unigolyn i oedolion mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod. Mae’r gweithdrefnau hefyd yn cydnabod deddfwriaeth, canllawiau a phrotocolau perthnasol eraill. Er enghraifft, Deddf Cam-drin Domestig (Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â www.diogelu.cymru (yn agor mewn tab newydd)

Diogelu Gwent

Mae gan Ddiogelu Gwent rôl strategol arweiniol o ran sicrhau bod plant a phobl ifanc yn y rhanbarth yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a cham-fanteisio a’u bod yn byw mewn amgylchedd sy'n hyrwyddo eu lles a'u cyfleoedd bywyd.

Mae'r Diogelu Gwent yn gorff statudol sy'n deillio o Ddeddf Plant 2004; fe wnaeth ddisodli'r Bwrdd Diogelu Plant De Ddwyrain Cymru.

Mae'r Diogelu Gwent yn bartneriaeth aml-asiantaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Heddlu Gwent, Gwasanaethau Cymdeithasol a Cyfarwyddiaethau Addysg o'r pum ardal Awdurdod Lleol, y Sector Gwirfoddol, Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid, Ymddiriedolaeth Prawf Cymru Gyfan, CAFCASS Cymru, Tai, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan. Pwrpas y gwaith partneriaeth hwn i ddwyn ei gilydd i gyfrif ac i sicrhau bod diogelu plant yn parhau i fod yn uchel ar yr agenda ar draws y rhanbarth.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Diogelu Gwent (yn agor mewn tab newydd).

Gwasanaethau Cymdeithasol (Plant)