Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdanynt yn ei chael hi'n anodd rheoli'ch cartref, mae help ar gael.

Gallwch gysylltu â'n tîm gwasanaethau cymdeithasol i gael cyngor.

Efallai y byddant yn eich cyfeirio at therapydd galwedigaethol a fydd yn helpu i asesu eich anghenion.

Mae penderfyniadau'n cael eu harwain gan Wiriwr Cymhwystra Llywodraeth Cymru.

Gofal a Thrwsio Torfaen

Mae Gofal a Thrwsio yn elusen addasiadau tai sy'n helpu pobl 60 oed a hŷn i fyw'n annibynnol yn eu cartref. Maent yn darparu nifer o gynlluniau addasu gwahanol, yn rhad ac am ddim i berchnogion tai neu denantiaid:

  • Gofal a Diogelwch yn y cartref – addasiadau sy'n costio hyd at £350. Gall pobl hunangyfeirio drwy gysylltu â'r elusen.
  • Rhaglen Addasiadau Ymateb Cyflym – addasiadau sy'n costio llai na £1,000 i bobl sydd newydd gael eu rhyddhau o'r ysbyty neu mewn perygl o orfod mynd i mewn i’r ysbyty neu gartref gofal. Rhaid cael atgyfeiriad gan weithiwr proffesiynol yn y maes iechyd neu wasanaethau cymdeithasol.
  • HWYLUSO – Cefnogaeth i Fyw'n Annibynnol – addasiadau sy’n costio hyd at £8,000 i’r rheini yn yr Ysbyty sy’n aros i gael eu rhyddhau, sydd wedi cael eu rhyddhau o’r Ysbyty yn ddiweddar neu sydd mewn perygl o orfod mynd i mewn i’r ysbyty.

I gael gwybodaeth, cysylltwch â Gofal a Thrwsio ar 01495 745936.

Grantiau Addasiadau Cost Isel

Mae grantiau ar gael gan Gyngor Torfaen ar gyfer addasiadau sy'n costio rhwng £1,000 ac £8,000, yn dilyn atgyfeiriad iechyd galwedigaethol gan y gwasanaethau cymdeithasol.

Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl

Grantiau prawf modd, o rhwng £8,000 a £36,000. Nid oes prawf modd am waith sy'n costio llai na £8,000 neu os yw'r addasiad ar gyfer plentyn anabl.

Gall Grant Cyfleusterau i’r Anabl dalu costau addasiad mawr yn rhannol neu'n gyfan gwbl hyd at £36,000.

Dylai tenantiaid cymdeithasau tai gysylltu â'u landlord yn y lle cyntaf.

I wneud cais, rhaid i chi gysylltu â Chyngor Torfaen a gofyn am asesiad gan Therapydd Galwedigaethol a all gychwyn y broses i wneud cais am grant.

Gwasanaethau Cymdeithasol (Oedolion)