Mae arlwyo cynaliadwy mewn ysgolion yn ymwneud â diwallu anghenion disgyblion heddiw tra’n diogelu lles cenedlaethau’r dyfodol.

Yn adran Prydau Ysgol Torfaen, rydym yn credu y dylai pob penderfyniad yr ydym yn ei wneud gefnogi buddiannau hirdymor ein disgyblion a'r gymuned ehangach. Felly, mae cynaliadwyedd wrth wraidd ein dull gweithredu, gan ein helpu i ddarparu prydau maethlon, fforddiadwy tra'n lleihau ein heffaith amgylcheddol.

Rydym yn cydnabod bod cynaliadwyedd yn daith gymhleth ac esblygol yn hytrach nag ateb cyflym. Mae newid ystyrlon yn cymryd amser, ymrwymiad a gwelliant parhaus. Fel tîm, rydym yn ymroddedig i wneud cynnydd cyson ac rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw am ein cyflawniadau a'r meysydd lle mae angen datblygiad pellach. Rydym yn credu mewn gosod targedau realistig, mesuradwy ac adrodd yn agored ar ein cynnydd.

Ers 2023, mae ein cyflawniadau cynaliadwyedd wedi'u cofnodi a'u diweddaru'n rheolaidd yn ein Map Ffordd Taith Cynaliadwyedd. Mae'r gwaith a hyd yma wedi cael ei gydnabod gan nifer o wobrau cenedlaethol, sy'n adlewyrchu ymroddiad ac arloesedd ein tîm arlwyo.

Er ein bod yn falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni, rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud bob amser. Nid pen taith yw cynaliadwyedd ond, yn hytrach, mae’n ymrwymiad parhaus, a byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd newydd i wella ein gwasanaeth a lleihau ein heffaith amgylcheddol.

Deall Ôl Troed Carbon Prydau Ysgol

Yn 2023 a 2024 gweithion ni gydag Athro o Brifysgol Caeredin i fesur allyriadau carbon ein bwydlenni cynradd.

Trwy gyflwyno dau newid sylweddol, ailgylchu gwastraff bwyd a darparu dewis llysieuol neu figan ychwanegol i bob disgybl bob dydd, fe wnaethom leihau allyriadau carbon oddeutu traean o bob cilogram o fwyd a weinir. Yn bwysig, cyflawnwyd y manteision amgylcheddol hyn wrth gynyddu'r amrywiaeth o ddewisiadau o brydau bwyd sydd ar gael i ddisgyblion.

Nododd y dadansoddiad hefyd gyfleoedd pellach ar gyfer gwella, ac rydym wedi parhau i adeiladu ar y gwaith hwn. Trwy ddatblygu ryseitiau parhaus, rydym yn lleihau ôl troed carbon llawer o'n prydau mwyaf poblogaidd heb gyfaddawdu ar ansawdd, blas na safonau maeth.

O ganlyniad, mae gan rai o'r prydau sy'n allyrru fwyaf ar ein bwydlen 2023 ôl troed carbon sylweddol is heddiw. Er enghraifft:

  • Mae ein rysáit Sbageti Bolognese wedi lleihau allyriadau carbon o fwy na thraean.
  • Mae newidiadau i’n rysáit peli cig wedi lleihau allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â’r pryd hwnnw tua 70%.

Cefnogi Dewisiadau Gwybodus

Bydd cynnig dewis yn parhau bob amser i fod yn egwyddor allweddol prydau ysgol yn Nhorfaen. Ni fyddwn byth yn pennu beth ddylai disgyblion ei fwyta neu beth na ddylent. Fodd bynnag, rydym yn credu ei bod yn bwysig bod disgyblion yn cael gwybodaeth sy'n eu galluogi i wneud dewisiadau gwybodus os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny.

Gan ddefnyddio'r dadansoddiad annibynnol o'n ryseitiau a gynhaliwyd gan Brifysgol Caeredin, rydym wedi cyflwyno symbol, a ddyluniwyd gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Cwmbrân, i nodi dewisiadau o brydau carbon is. Gwiriwyd bod y prydau hyn yn cynhyrchu 1.5kg CO₂e neu lai fesul cilogram o fwyd a weinir.

Mae'r sgôr hon yn seiliedig ar ddadansoddiad manwl o ryseitiau Torfaen ei hun yn hytrach na data generig o’r diwydiant, gan sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn berthnasol ac yn gywir i'n bwydlenni.

Er mwyn cefnogi dealltwriaeth, mae posteri gwybodaeth yn cael eu harddangos mewn neuaddau bwyta sy'n esbonio'r symbol a'i ystyr, gan helpu disgyblion i wneud dewisiadau gwybodus am eu prydau bwyd.

Gweithio gyda'n gilydd

Rydym wedi ymrwymo i wrando ar farn ein disgyblion ac rydym yn croesawu syniadau ynglŷn â sut y gall ein taith cynaliadwyedd barhau i esblygu.

Os oes gyda chi awgrymiadau am feysydd y dylem ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol, cysylltwch â louise.gillam@torfaen.gov.uk

Wedi’r cyfan, mae cynaliadwyedd yn golygu diogelu’r dyfodol, ac mae’r dyfodol hwnnw’n eiddo i’n disgyblion.

Prydau Ysgol