Rydym yn gweithio'n galed yma yn Adran Arlwyo Ysgolion Torfaen i sicrhau bod ein bwydlenni'n flasus, maethlon ac yn cynnig gwerth am arian. Rydym hefyd yn ymdrechu i fod yn gynhwysol a darparu ar gyfer ein holl ddisgyblion.
Rydym yn sylweddoli nad yw un ddewislen yn addas i bawb, ac na fydd ein bwydlen safonol yn addas i rhai disgyblion. Rydym yn hyderus wrth ddarparu ar gyfer disgyblion sydd â gofynion meddygol penodol, fel alergenau, clefyd coeliag a diabetes. Rydym hefyd yn darparu ar gyfer disgyblion sydd angen bwydlen wahanol am rhesymau crefyddol, moesegol neu ddiwylliannol, fel llysieuol neu fwyd sydd heb gig ond yn cynnwys pysgod.
Mae gennym systemau a gweithdrefnau ar waith i sicrhau ein bod yn darparu'n ofalus a diogel ar gyfer y rhai sydd angen diet arbennig. Mae hyn yn cynnwys cyflogi dietegydd i'w prosesu, gan gydweithio'n agos â rhieni / gwarcheidwaid a chydweithwyr y GIG.
Dietau am Resymau Meddygol
I ofyn am ddiet arbennig, a fyddech cystal â llenwi ffurflen gais ar gyfer dietau a ragnodwyd am resymau meddygol a’i dychwelyd a'i dychwelyd atom ni. A fyddech cystal â sicrhau bod gweithiwr yn y proffesiwn meddygol yn cwblhau adran B neu eich bod wedi amgáu copi o lythyr meddygol diweddar yn cadarnhau’r diagnosis a’r diet angenrheidiol.
Mae angen cadarnhad meddygol er mwyn diogelu iechyd eich plentyn a sicrhau bod yna angen meddygol i gyfyngu ar eu diet. Gallai darparu diet cyfyngedig iawn heb angen meddygol fod yn niweidiol i'ch plentyn heb gymorth gweithiwr iechyd proffesiynol. Ni allwn brosesu eich cais nes ein bod wedi derbyn hyn.
Unwaith y byddwn wedi derbyn y ffurflen, byddwch yn derbyn diet arbennig i'ch plentyn drwy'r post / e-bost neu byddwn yn cysylltu â chi i drafod gofynion eich plentyn yn fwy manwl cyn anfon bwydlen allan atoch chi. Caniatewch hyd at 3 wythnos i'ch bwydlen gyrraedd.
Unwaith y byddwch wedi derbyn bwydlen eich plentyn, gofynnwn i chi gysylltu â ni i gadarnhau eich bod yn hapus gyda'r fwydlen a thrafod dyddiad cychwyn. Yna byddwn yn darparu copi o'r fwydlen i gogydd yr ysgol ac yn trafod gofynion eich plentyn gyda nhw.
Er mwyn amddiffyn iechyd eich plentyn, a fyddech cystal â rhoi cinio pecyn o'ch cartref iddo hyd nes y byddwch wedi cadarnhau'r dyddiad cychwyn.
Bwytawyr Ffyslyd
Yn anffodus, ni allwn dderbyn ceisiadau gan rieni / gwarcheidwaid ynghylch plant nad ydynt yn hoffi rhai bwydydd neu sy'n fwytawyr ffyslyd. Rydym yn eich cynghori chi / eich plentyn i reoli hyn eu hunain trwy'r hyn y maen nhw'n ei ddewis wrth y cownter. Mae'r bar salad ar gael ochr yn ochr â phryd poeth y dydd ac mae bob amser yn cynnig dewis eang o fwydydd a fydd, yn ôl pob gobaith, yn galluogi'ch plentyn i ddewis rhywbeth y mae’n ei hoffi, os nad ydynt yn mwynhau pryd y dydd.
Dietau arbennig am resymau crefyddol, diwylliannol neu foesegol
Byddwn yn gwneud ymdrech bob amser i ddarparu ar gyfer eich plentyn. Os yw eich plentyn yn dilyn diet llysieuol, heb gig neu bysgod am resymau crefyddol, diwylliannol neu foesegol yn unig, bydd dewis priodol ar gael ar ein bwydlen arferol bob tro. Os bydd angen bwydlen figanaidd arnoch chi, rhowch wybod i’r swyddfa, os gwelwch yn dda, i ni gael trefnu hyn.
Newidiadau i ofynion dietegol
Mewn llawer o achosion, gall plant dyfu allan o alergedd a / neu ganfod nad oes angen diet arbennig arnynt mwyach. Anfonwch lythyr neu e-bost i'r swyddfa arlwyo yn nodi'r newidiadau neu'n cadarnhau unrhyw newid o ran gofynion.
Plant sy'n dechrau ar laeth neu wyau
Yn anffodus, dim ond bwydlen heb laeth, bwydlen heb wyau neu'r fwydlen arferol allwn ni eu darparu. Rydyn ni’n eich cynghori i ailgyflwyno llaeth/wyau gartref lle gallwch chi fonitro'ch plentyn, ac unrhyw adwaith y gallent ei gael, yn agos.
Fel rhywun sy'n darparu eich prydau ysgol, mae arlwyo yn rhywbeth yr ydym yn ei gymryd o ddifri i'r holl ddisgyblion. Bydd llawer o'r plant sy'n symud i'r Ysgol Uwchradd wedi arfer derbyn bwyd yn ein hysgolion cynradd yn flaenorol, gan ddefnyddio bwydlenni unigol arbennig a gynhyrchwyd gan ein dietegydd.
Mae'n bwysig gwybod bod darparu bwyd yn yr Ysgol Uwchradd i'r rheini ar ddiet arbennig yn wahanol i'r hyn y gallech fod wedi arfer ag ef yn yr ysgol gynradd.
- Nid yw cofnod arlwyo'r plentyn yn mynd gyda nhw i'r Ysgol Uwchradd. Felly, mae angen i'n cogyddion wybod a oes gan eich plentyn alergedd / anoddefgarwch neu unrhyw angen arall o ran ei ddiet. Dylai eich plentyn ddweud wrth y cogydd yn uniongyrchol os oes ganddo unrhyw angen dietegol arbennig. Os nad ydych yn hyderus y bydd eich plentyn yn gallu gwneud hyn ei hun, cysylltwch â'r swyddfa Arlwyo a gallwn sicrhau bod y wybodaeth hon yn cyrraedd y cogydd.
- Gan fod arlwyo yn yr Ysgol Uwchradd yn arddull caffi gydag amrywiaeth eang o opsiynau (yn hytrach nag un pryd poeth penodol fel yn yr ysgol gynradd), ni chynhyrchir bwydlen arbennig. Yn lle, bydd ein cogyddion yn trafod ac yn gwneud trefniadau gyda'ch plentyn ynghylch yr hyn y gellir ei ddarparu / yr hyn yr hoffent yn unigol.
- Mae matrics alergen llawn yn cael ei gadw ym mhob cegin i'w ddefnyddio gan y cogydd ac mae ar gael i'ch plentyn. Rydym hefyd yn hapus i'w ddarparu i rieni pe byddent yn dymuno ei ddefnyddio gartref gyda'r disgybl wrth ei helpu i ddewis yn ddiogel.
- Alergeddau Cnau a Physgnau. Mae ein bwydlenni cynradd yn rhydd o gnau a physgnau ac nid yw bwydlenni cynradd yn cynnwys unrhyw gynhwysion 'a allai gynnwys' cnau neu physgnau. Mae eitemau'n cael eu gwerthu mewn Ysgolion Uwchradd sydd â rhybudd “gall gynnwys cnau / pysgnau”. Mae'r rhain wedi'u nodi'n glir ar y matrics alergenau a / neu gall y cogydd dynnu sylw atynt ar y safle. Ni chaniateir i’n cogyddion ddarparu unrhyw fwyd sydd â rhybudd “cynnwys” neu “gall gynnwys” i ddisgybl sydd wedi dweud fod ganddo alergedd i’r cynhwysyn penodol hwnnw.
Mae Arlwyo Ysgolion Torfaen yn ymroddedig i wneud pob addasiad rhesymol a chefnogi disgyblion gyda diagnosis o awtistiaeth o ran defnyddio gwasanaethau prydau bwyd ysgol. Mae pob aelod o’n Staff Arlwyo wedi derbyn hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth. Cysylltwch â ni i gael copi o’n polisi "Arlwyo mewn ysgolion ar gyfer disgyblion gyda diagnosis o awtistiaeth" ac i drafod cymorth unigol gyda dietegydd y tîm.
Rydym yn ymfalchïo yn ein harferion rheoli alergenau rhagorol. Mae angen ymdrech sylweddol gan y tîm i gyd ac mae gan bob uned rolau a chyfrifoldebau unigryw. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau bod POB disgybl yn gallu cael eu bwyd yn ddiogel ac yn hyderus trwy gydol y diwrnod ysgol.
Hyfforddiant
Trwy Hyfforddiant ac Ail-hyfforddiant, sicrheir bod pawb yn gwybod beth yw eu cyfrifoldebau unigol.
Mae POB Rheolwr Arlwyo a chogydd yn gwneud cwrs Lefel 3 Rheoli Alergenau wrth Arlwyo. Ein dietegydd/tiwtor cofrestredig sy’n cyflwyno’r cwrs ac mae wedi cael addysg ym maes Alergeddau Bwyd hyd at lefel Gradd MA ac wedi ennill achrediad allanol.
Mae pob aelod o staff yn cael cwrs mewnol ar alergenau bob 2 flynedd ac mae’r cwrs yn para dwy awr. Mae hyn yn cynnwys yr aelodau hynny o staff sydd â chymhwyster Lefel 3, ac unwaith eto mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno gan ein dietegydd.
Mae’r hyfforddiant yn cynnwys profi’r gallu i bennu pa alergenau sydd mewn bwydydd o’r labeli bwyd a’r matrics alergenau. Mae hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau ymarferol fel gwirio cynhwysion sy’n ein cyrraedd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth anawdurdodedig wedi cael ei ddefnyddio ynddynt yn lle’r cynhwysion arferol, camau ymarferol i atal croes-halogi a darparu ar gyfer y rheiny sy’n dilyn bwydlenni arbennig. Mae pob aelod o staff yn cwblhau prawf ysgrifenedig fel bod tystiolaeth o’u presenoldeb a’u dealltwriaeth.
Cadarnhad Meddygol dros Alergeddau
Nid ydym yn darparu ar gyfer alergeddau sydd wedi cael eu diagnosio’n bersonol. Mae gennym ddyletswydd gofal tuag at ein disgyblion i beidio â hepgor grwpiau bwyd pwysig yn ddiangen oherwydd gallai hynny effeithio ar dwf/ddatblygiad. Ymhellach, rydym eisiau gwybod bod rhieni yn cael cymorth gweithwyr iechyd proffesiynol i ddarparu ar gyfer unrhyw ddiffygion maeth sy’n codi am eu bod yn hepgor bwydydd penodol.
Mae arnom angen sicrhau hefyd fod ein cogyddion yn canolbwyntio 100% ar y rheiny sydd ag alergeddau, ac nad yw eu sylw yn cael ei dynnu oddi ar hynny er mwyn delio â disgyblion sy’n ffyslyd wrth fwyta ac sy’n hoffi/casáu/ffafrio bwydydd penodol. Yn anffodus, mae hynny’n gallu cael ei gyflwyno i ni fel “alergedd” ar adegau. Byddwn yn cynnig addasiadau rhesymol bob tro i’r rheiny â diagnosis o anhwylder bwyta neu Awtistiaeth, a hynny ar sail unigol.
Gyda chaniatâd clir rhieni, gall ein dietegydd gael mynediad uniongyrchol at gadarnhad o alergeddau gan y gweithiwr iechyd proffesiynol (a hynny ar yr un diwrnod yn aml), gan sicrhau nad oes unrhyw beth yn ein rhwystro rhag darparu bwyd yn brydlon ac yn ddiogel. Nid oes angen apwyntiadau gyda’r Meddyg Teulu na thalu am lythyron meddygol yn yr achos hwn.
Arddangosir arwyddion priodol ymhob man gweini yn ein neuaddau cinio i ddweud wrth ddisgyblion am holi ein staff am alergenau cyn archebu bwyd.
Asesiadau risg arlwyo ar gyfer disgyblion ag alergeddau
Ysgolion Cynradd
Mae ein dietegydd yn rheoli pob disgybl ag alergedd neu alergeddau niferus. Ceir sgwrs gyda rhieni a chofnodir manylion allweddol. Caiff bwydlenni eu llunio ar gyfer y disgyblion hyn a bydd y cogydd yn eu dilyn. Cyhoeddir Memo Cadarnhau hefyd gyda chyfarwyddiadau ysgrifenedig ar gyfer arlwyo diogel.
Ysgolion Uwchradd
Anogir disgyblion i ddechrau cymryd cyfrifoldeb dros eu dewisiadau bwyd. Maent yn tyfu i fyny ac yn cael eu paratoi at y byd go iawn. Nid yw’n ymarferol i ni lunio bwydlenni ar gyfer y disgyblion hyn oherwydd y cyfuniadau bwyd niferus a gynigir (mae gan ysgolion cynradd fwydlenni penodol). Anogir disgyblion i siarad â’r cogydd ac astudio’r matrics Alergenau gyda’i gilydd er mwyn sicrhau eu bod yn dewis yn ddiogel. Wrth symud ymlaen o’r ysgol gynradd, mae’r dietegydd a/neu’r rhieni yn aml yn helpu gyda’r sgwrs/cyflwyniad cyntaf hwn.
Mae yna labeli PPDS ar bob eitem ‘codi a mynd’ a weinir yn ein Hysgolion Uwchradd (dros 100) ac maent yn cydymffurfio â Deddf Natasha. Diolch i’w phrofiad blaenorol o reoli labeli bwyd, mae ein dietegydd yn gallu ysgrifennu’r rhain o’r dechrau’n deg a’u diwygio ar yr un diwrnod os digwydd i gynhwysion neu frandiau newid.
Gwiriadau Swyddfa Gefn
Gweithiwn yn agos gyda’n cyflenwyr a darparwyr ein meddalwedd er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn gywir a bod unrhyw newidiadau yn cael eu diweddaru a’u cyfathrebu gyda’n cogyddion mewn amser real.
Amgylchedd ehangach yr ysgol
Nid yw’r posibilrwydd i ddisgyblion fod yn agored i alergenau wedi ei gyfyngu at gegin a neuadd ginio’r ysgol. Gweithiwn gyda phenaethiaid pan fydd gofyn rheoli’r posibilrwydd o ddod i gysylltiad ag alergenau yn amgylchedd ehangach yr ysgol – darparu llaeth am ddim, clybiau ar-ôl-ysgol, bwyd o’r cartref, gollwng bwydydd a diodydd yn ddamweiniol, teithiau ysgol. Mae hyn yn sicrhau bod asesiadau risg ar gyfer yr ysgol gyfan yn ystyrlon.