Cinio
Mae ots gennym ni am iechyd a lles ein plant. Felly, rydym wedi creu ystod o brydau ysgol sy'n cydymffurfio â safonau maeth, gan gynnwys amrywiaeth o seigiau cig coch a dofednod, pysgod olewog llawn omega-3, reis a phasta. Dadansoddir yr holl fwyd a diod yn ein hysgolion cynradd gan ddietegydd ein timau er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Rheoliadau a Safonau Maeth) (Cymru).
Mae ein prydau bwyd hefyd yn cynnig mwy o ddewis o ffrwythau, llysiau a salad ffres. Ac rydym, wrth gwrs, wedi lleihau'r cynnwys braster, siwgr a halen yn ein ryseitiau, tra'n cynyddu ffibr. Yn ogystal â hynny, rydym yn defnyddio dulliau coginio fel stemio a phobi i sicrhau bod maetholion yn cael eu cadw, ac i wella ansawdd a blas.
Mae ein bwydlenni ysgol ar gael yma.
Cynllun Clwb Brecwast Am Ddim
Mae gennym 24 o glybiau brecwast mewn ysgolion cynradd yn Nhorfaen gyda mwy na 1,000 o blant yn aros am frecwast ysgol am ddim bob diwrnod. Mae clybiau brecwast yn cynnig detholiad o rawnfwydydd, gan gynnwys uwd yn y misoedd oerach, llaeth, ffrwythau a sudd ffrwythau, tost a ffa pob ar dost ar brydiau, gan sicrhau bod ein disgyblion i gyd yn elwa o'r dechrau gorau i'r diwrnod, a'u bod yn barod i ddysgu.
Siop Ffrwythau a Bariau Salad
Mae "Siopau losin" yn perthyn i raddau helaeth i'r gorffennol. Ers tro bellach, mae Siopau Ffrwythau a Bariau Salad wedi bod ar waith mewn llawer o ysgolion cynradd, gan helpu i wneud y dewis iach yn ddewis hawdd i'n disgyblion drwy gydol y diwrnod ysgol cyfan a newid arferion er gwell.
“Mae gennym siop ffrwythau, bar salad a chlwb brecwast. Rydyn ni hefyd yn cynnwys elfen o faeth yng nghyfarfodydd cyngor yr ysgol ac mae'r disgyblion yn frwdfrydig iawn ynglŷn â bwyta'r bwyd iawn. Rydym yn eu hannog nawr fel y gall eu helpu yn ddiweddarach mewn bywyd.” Paul Welsh, Pennaeth, Ysgol Gynradd Padre Pio
Cynllun llaeth ysgol
Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwybod bod llaeth yn llawn o "stwff da" – egni, protein, calsiwm a fitaminau a mwynau eraill sy'n bwysig ar gyfer tyfiant a datblygiad, gan gynnwys esgyrn a dannedd cryf. Fel arlwywyr rydyn ni wedi cydnabod ers amser maith bwysigrwydd llaeth fel diod, ac mae pob un o'n disgyblion babanod a meithrin yn elwa o gael llaeth am ddim bob dydd.