Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc y cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial, gan gynnwys yr hawl i ddysgu mewn amgylchedd diogel ac amddiffynnol yn rhydd o fwlio neu wahaniaethu o unrhyw fath.
Mae Canllawiau a Pholisi Gwrth-fwlio Torfaen ar gyfer Lleoliadau Addysg yn darparu manylion am rwymedigaethau a disgwyliadau statudol ar ysgolion ac Awdurdodau Lleol. Mae'r ddogfen yn rhoi enghreifftiau o arfer gorau i ysgolion o ran atal ymddygiad bwlio ac arweiniad ar sut i ysgrifennu Polisi Gwrth-fwlio.
Gellir ymweld â gwefan gwrth-fwlio sy'n darparu gwybodaeth a chyngor i blant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol trwy roi clic ar www.antibullytorfaen.org.uk (yn agor mewn tab newydd).
Gweler yr adnoddau isod a allai fod yn ddefnyddiol:
- Ydych chi’n cael eich bwlio? (yn agor mewn tab newydd)
- Ydy eich plentyn yn cael ei fwlio? (yn agor mewn tab newydd)