Mae'r sesiynau hyn yn galluogi plant (5+ oed) ag anableddau neu anghenion ymddygiad i gymryd rhan mewn cyfleoedd chwarae rheolaidd.

Mae staff wedi'u hyfforddi i ddarparu ar gyfer ystod o anghenion ychwanegol, cymhleth ac maent yn gweithio ar sail 1-1.

Cynhelir sesiynau ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol.

Atgyfeiriadau yn unig

Dydd Sadwrn

  • 9:30am - 12:00pm a 12:30pm - 3:00pm - Canolfan Gymunedol Bryn Eithin
  • 9:30am - 12:00pm a 12:30pm - 3:00pm - Neuadd Gymunedol Dôl werdd a Sain Derfel
  • 9:30am - 11:15am – Eglwys Victory, Springvale
  • 9:30am - 12:00pm - Canolfan Ieuenctid Glansychan, Parc Glansychan

Dydd Sul

  • 9:30am - 12:00pm – Neuadd Gymunedol Glenside, Pontnewydd
  • 9:30am - 12:00pm a 12:30pm - 3:00pm - Neuadd Gymunedol Dôl werdd a Sain Derfel

Ceisiadau am gymorth ychwanegol i gael cyfleoedd yn ystod gwyliau haf a hanner tymor

Gellir gwneud ceisiadau ar gyfer plant sydd angen cymorth ychwanegol i gael cyfleoedd chwarae cymunedol sy’n cynnwys gwyliau haf a hanner tymor.

Chwarae Torfaen - Mynegiant o Ddiddordeb ar gyfer cymorth 1 i 1 (yn agor mewn tab newydd)