Darpariaeth arbenigol Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae saith darpariaeth arbenigol yn Nhorfaen.

Bydd penderfyniad ynghylch a yw eich plentyn yn bodloni'r meini prawf ar gyfer lleoliad arbenigol yn cael ei drafod gyda chi gan un o'n seicolegwyr addysgol.

Penderfynir ar leoliadau yn flynyddol. Bydd lleoliadau yn dechrau ym mis Medi.

Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir cynnig lle i ddisgyblion yn ystod y tymor. Siaradwch â chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol eich ysgol.

Darpariaeth arbenigol ADY
Enw'r DdarpariaethMathNatur y DdarpariaethYstod Oedran
Ysgol Arbennig Crownbridge Turnpike Road, Croesceiliog, Cwmbrân. NP44 2BJ
Rhif ffôn: 01633 624201 www.crownbridgeschool.co.uk (yn agor mewn tab newydd)
Ysgol arbennigADD ac anghenion cysylltiedig3-19
Ysgol Gynradd Nant Celyn Henllys Way, Cwmbrân. NP44 7DJ
Rhif ffôn: 01633 624170 www.nantcelynprimary.co.uk (yn agor mewn tab newydd)
Canolfan adnoddau cynradd UAA CCanolfan adnoddau i’r byddar5-11
Ysgol Gynradd Nant Celyn Henllys Way, Cwmbrân. NP44 7DJ Rhif ffôn: 01633 624170 Ffacs: 01633 624169 www.nantcelynprimary.co.uk (yn agor mewn tab newydd)Canolfan adnoddau cynradd UAA CAnhwylder y sbectrwm awtistig5-11
Ysgol Gynradd Maendy Wayfield Crescent, Cwmbrân. NP44 1NH
Rhif ffôn: 01633 483168 www.maendyprimary.co.uk (yn agor mewn tab newydd)
Canolfan adnoddau cynradd UAA CAnghenion dysgu cymhleth ac anghenion cysylltiedig3-7
Ysgol Gynradd Pontnewydd Bryn Celyn Road, Pontnewydd, Cwmbrân. NP44 1JW
Rhif ffôn: 01633 483307
www.pontnewyddprimaryschool.co.uk (yn agor mewn tab newydd)
Canolfan adnoddau cynradd UAA CAnghenion dysgu cymhleth ac anghenion cysylltiedig5-11
Ysgol Gyfun Abersychan Incline Road, Abersychan, Pont-y-pŵl. NP4 7DF Rhif ffôn/Ffacs: 01495 773068
www.abersychan.org.uk (yn agor mewn tab newydd)
Canolfan adnoddau uwchradd UAA UAnghenion dysgu cymhleth ac anghenion cysylltiedig11-16
Ysgol Uwchradd Cwmbrân Tŷ Gwyn Way, Fairwater, Cwmbrân. NP44 4YZ Rhif ffôn: 01633 643950
Ffacs: 01633 643951
www.cwmbranhighschool.co.uk (yn agor mewn tab newydd)
Canolfan adnoddau uwchradd UAA UAnhwylder y sbectrwm awtistig A chanolfan adnoddau i’r byddar11-16

Darpariaeth ADY y tu allan i'r sir

Mewn nifer fach iawn o achosion, asesir bod gan rai plant anghenion difrifol a chymhleth na ellir eu diwallu'n lleol. Yn yr achosion hyn, gofynnir am leoliad arbenigol y tu allan i'r awdurdod. Byddwn yn adolygu cynnydd y disgyblion hyn i sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu eu hanghenion.

Trafnidiaeth i ddarpariaeth arbenigol

Os cytunwyd ar leoliad arbenigol a bod angen cludiant, bydd yn cael ei ddarparu gan wasanaeth trafnidiaeth y cyngor, a fydd yn cysylltu â chi.