Disgrifiad

Cwrs Ar-lein

Mae gweithio'n ddiogel er budd a phryder yr holl staff, cyflogwyr a gweithwyr.

Iechyd a diogelwch yw un o'r ychydig feysydd lle mae'r gyfraith yn gosod dyletswyddau penodol ar gyflogeion felly mae gwybodaeth am ble mae hyn yn berthnasol a sut i sicrhau y glynir wrtho yn hanfodol i amddiffyn unigolion a busnesau.

Mae'r cwrs yn ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys diogelwch tân, ymwybyddiaeth o asbestos, gweithio ar uchder, COSHH, PPE a thrydan.

Mae hefyd yn cwmpasu cynlluniau ar gyfer gwella perfformiad diogelwch a dulliau o ddiogelu'r amgylchedd.

Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r cyrsiau canlynol wedi eu hachredu. Ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif hyfforddiant ddigidol.


Cofrestrwch eich diddordeb yn y cwrs