Goruchwylio Diogelwch Bwyd – Lefel 3

Disgrifiad

Cwrs Ar-lein

Mae hwn yn gwrs manwl sy'n dechrau gyda diffiniadau sylfaenol, ac yna'n dilyn llwybr rhesymegol drwy bynciau eraill gan gynnwys mathau o beryglon bwyd, hylendid personol, rheoli plâu, deddfwriaeth, gorfodi, a dylunio a glanhau safleoedd ac offer.

Mae hefyd yn trafod sut i weithredu system rheoli diogelwch bwyd lwyddiannus.

Mae amrywiaeth eang o bynciau oherwydd bod System Rheoli Diogelwch Bwyd effeithiol, sy'n cael ei rhedeg yn broffesiynol, yn amddiffyn eich cwsmeriaid, eich staff, ac enw da eich cwmni.

Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r cyrsiau canlynol wedi eu hachredu. Ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif hyfforddiant ddigidol.


Cofrestrwch eich diddordeb yn y cwrs