Disgrifiad
Os ydych chi wedi astudio Sbaeneg ers rhai blynyddoedd, yn gallu sgwrsio’n hyderus am bynciau yr ydych yn gyfarwydd â nhw ac os oes gennych chi rywfaint o ddealltwriaeth o amserau’r gorffennol, bydd ein dosbarthiadau Sbaeneg yn gwella’ch iaith lafar ac yn datblygu eich sgiliau ar yr un pryd ag edrych ar ddiwylliant ac arferion Sbaen ac America Ladin.