Disgrifiad
Cwrs Ar-lein
Bydd y cwrs hwn yn dangos sut mae gwisgo cyfarpar diogelu personol yn chwarae rhan hollbwysig o ran atal a lleihau marwolaethau, anafiadau a chlefydau yn y gwaith.
Mae'n cynnwys manylion ystod eang o opsiynau PPE, yn archwilio'r ddeddfwriaeth a rheoliadau ac mae hefyd yn ymdrin â'r rôl mae asesu risg yn ei chwarae wrth ddethol a defnyddio cyfarpar diogelu personol.
Daw'r cwrs i ben gyda chyngor ar sut i ddefnyddio, ffitio a gwisgo cyfarpar diogelu personol a'i gyfyngiadau ffisegol a damcaniaethol.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r cyrsiau canlynol wedi eu hachredu. Ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif hyfforddiant ddigidol.