Disgrifiad

Cwrs Ar-lein

Bydd y cwrs hwn yn dangos i chi pa mor beryglus y gall sŵn fod yn y gweithle, a'r prif faterion diogelwch y dylech fod yn ymwybodol ohonynt.

Bydd yn mynd â chi drwy rywfaint o’r gwyddoniaeth syml, y prif ddeddfau sy'n berthnasol ac yn eich cyflwyno i derfynau lefel sŵn.

Mae hefyd yn cwmpasu rhai o'r risgiau iechyd penodol a sut i'w hosgoi drwy gynhyrchu asesiadau risg, cynlluniau gweithredu a thrwy ddarparu Cyfarpar Diogelu Personol priodol.

Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r cyrsiau canlynol wedi eu hachredu. Ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif hyfforddiant ddigidol.


Cofrestrwch eich diddordeb yn y cwrs