Dyfarniad Lefel 2 mewn Atal a Rheolaeth Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig

Disgrifiad

Bydd gofyn bod pob gweithiwr proffesiynol sy’n cynnig gwasanaethau celf y corff ac aciwbigo yng Nghymru yn cael trwydded fandadol i weithredu.

Mae hyn yn cynnwys artistiaid tatŵio, gweithwyr sy’n tyllu’r corff, artistiaid colur lled-barhaol, aciwbigwyr ac electrolegwyr.

Er mwyn helpu ymarferwyr i gwrdd â gofynion trwyddedu newydd Llywodraeth Cymru, mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen yn cynnig Dyfarniad Lefel 2 Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd mewn Atal a Rheoli Haint.

Crëwyd y cwrs hwn i unrhyw un sy’n rhoi triniaethau arbenigol sy’n golygu torri trwy’r croen a pherygl o haint.

Bydd y cwrs yn cynnwys y sgiliau a’r wybodaeth hanfodol y mae eu hangen i atal heintiau a’u rheoli, er enghraifft arferion hylendid, dulliau sterileiddio, gwaredu ar wastraff, cyfarpar diogelu personol a chyngor ar ofal ar ôl y driniaeth.

Wedi cwblhau’r cwrs, bydd ymarferwyr yn gallu dangos eu cymhwysedd a’u proffesiynoldeb i’w cleientiaid a’u rheoleiddwyr.


Cofrestrwch eich diddordeb yn y cwrs