Dyfarniad Lefel 1 Highfield mewn Egwyddorion Ymwybyddiaeth Diogelwch Tân

Disgrifiad

Amcan y cymhwyster hwn yw cefnogi dysgwyr mewn unrhyw weithle, yn enwedig dechreuwyr newydd, pan fo angen dealltwriaeth sylfaenol o ddiogelwch tân.

Bydd dysgwyr a fydd yn cael y cymhwyster hwn yn gwybod bod diogelwch tan yn gyfrifoldeb i bawb yn y gweithle. Byddan nhw’n adnabod achosion cyffredin tanau ac yn gallu nodi camau i’w cymryd os bydd tân.

Mae’r pynciau’n cynnwys:

  • Egwyddorion ymwybyddiaeth diogelwch tân
  • Peryglon a risgiau gyda thân yn y gweithle
  • Rheoli risgiau tân

Mae'r cwrs hwn i chi os ydych chi:

  • Newydd ddechrau yn eich sefydliad ac am ddechrau gyda diogelwch
  • Yn gyfrifol am gwblhau asesiadau risg neu’u hadolygu
  • Diddordeb gennych mewn dod yn warden tân dynodedig
  • Ystyried adnewyddu eich ymwybyddiaeth diogelwch tân
  • Awyddus i gael hyfforddiant a gydnabyddir gan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)

Cofrestrwch eich diddordeb yn y cwrs