Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Disgrifiad

Cwrs yn yr Ystafell Ddosbarth

Ofn Mathemateg? Peidiwch â bod!

Dewch i'n gweithdai Mathemateg. Byddwn ni’n dechrau gyda'r hyn y mae angen i chi weithio arno. Byddwch yn gweithio ar eich lefel chi, ar gyflymder sy'n addas i chi.

Mae pawb yn gweithio ar eu targedau eu hunain, felly ni fyddwch byth yn teimlo ar ei hôl hi, neu cael eich rhoi mewn sefyllfa anodd!

Magwch hyder mewn sgiliau rhifau sylfaenol gan gynnwys y defnydd o ffracsiynau, degolion a chanrannau. Dysgwch sut i ddefnyddio'r system fetrig ar gyfer prosiecctau yn y cartref, dehongli graffiau a thablau a deall a defnyddio gwybodaeth ariannol sylfaenol.

Ewch amdani a threchu ofn rhifau!


Cofrestrwch eich diddordeb yn y cwrs