Disgrifiad

Dysgu ar-lein mewn ffordd hyblyg gydag asesiad wyneb yn wyneb

Cyfle i feithrin hyder, datblygu sgiliau cyfathrebu a gwybodaeth broffesiynol gyda’n cwrs Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 2, dan ofal Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen.

Mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sy'n gweithio mewn swydd sy’n ymwneud â chwsmeriaid, neu'n paratoi ar gyfer rôl o’r fath, yn cynnwys manwerthu, gweinyddiaeth, gwaith derbynfa, lletygarwch, iechyd neu leoliadau gwirfoddol a chymunedol. Mae hefyd yn addas i sefydliadau sy'n dymuno cefnogi gweithwyr neu gleientiaid i ddatblygu sgiliau hanfodol yn y gweithle.

Sut mae'r cwrs yn gweithio

Bydd y dysgu yn digwydd ar-lein a hynny ar eich cyflymder eich hun, felly’n eich galluogi i astudio o amgylch gwaith, cyfrifoldebau gofalu neu ymrwymiadau eraill. Unwaith y byddwch chi'n barod, byddwch yn dod i un o'n canolfannau i gwblhau asesiad byr, amlddewis mewn lleoliad cefnogol, personol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Byddwch yn datblygu gwybodaeth ymarferol a hyder mewn meysydd fel:

  • Deall gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol
  • Diwallu anghenion a disgwyliadau cwsmeriaid
  • Datrys problemau a phroffesiynoldeb yn y gweithle

Opsiynau o ran arddull

  • Cymhwyster Lefel 2 achrededig (tystysgrif)
  • Opsiwn heb ei achredu ar gael
  • Opsiwn wedi ei deilwra neu fesul grŵp i gyflogwyr, sefydliadau neu wasanaethau cymorth (gellir trafod opsiynau wyneb yn wyneb, ar-lein neu gyfuniad)

Rydym yn hapus i deilwra’r arddull i weddu i grwpiau penodol, gan gynnwys meithrin hyder, cymorth cyflogadwyedd neu uwchsgilio'r gweithlu.

Asesu

  • Un arholiad amlddewis
  • Sefyll yr arholiad wyneb yn wyneb yn un o ganolfannau Dysgu oedolion yn y Gymuned yn Nhorfaen
  • Codir tâl ar wahân os oes angen ail-sefyll

Cost

£62.50 – Codir tâl ar wahân os oes angen ail-sefyll.

Diddordeb?

I gael gwybod mwy, trafod opsiynau arddull, neu i ddangos diddordeb, cysylltwch â ni.


Cofrestrwch eich diddordeb yn y cwrs