Cymhwyster Highfield Lefel 2 i Ddeiliaid Trwydded Bersonol (RQF)

Disgrifiad

Mae'r cymhwyster hwn yn addas i unrhyw un sy'n awyddus i wneud cais am Drwydded Bersonol i werthu neu awdurdodi gwerthu alcohol.

Mae llwyddo i gwblhau Cymhwyster Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwydded Bersonol (APLH) yn dangos bod unigolyn yn gwybod am y gyfraith sy’n ymwneud â thrwyddedu ac yn ei deall. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldebau cyfreithiol, rôl Deiliad y Drwydded Bersonol, a phwysigrwydd hyrwyddo'r pedwar amcan trwyddedu.

Mae'r cymhwyster hwn yn ofyniad cyfreithiol a rhaid ei gyflawni cyn gwneud cais am Drwydded Bersonol drwy eich awdurdod lleol.

Diddordeb?

Cam 1: Rhowch wybod bod gennych ddiddordeb, a chofrestru, drwy ffonio neu e-bostio.

Cam 2: Cwblhewch y dysgu ar-lein.

Cam 3: Ewch ati i drefnu a sefyll yr arholiad yn un o’n canolfannau dysgu.


Cofrestrwch eich diddordeb yn y cwrs