Iechyd a Diogelwch mewn Lleoliad Gofal

Disgrifiad

Cwrs Ar-lein

Mae Cartrefi Gofal yn wahanol i weithleoedd eraill gan eu bod yn gartrefi yn ogystal â gweithleoedd.

Dylent fod yn fannau lle mae'r preswylwyr yn cael eu parchu, a lle mae iechyd a diogelwch pawb yn cael ei reoli'n effeithiol.

Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i bawb sy'n gysylltiedig ddeall eu cyfrifoldebau.

Mae'r cwrs hwn yn trafod y ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i gartrefi gofal ynghyd â datblygu systemau gwaith diogel.

Mae hefyd yn ymdrin â beth i'w wneud mewn rhai sefyllfaoedd cyffredin y gallech ddod ar eu traws yn ogystal â rhai sefyllfaoedd brys.

Daw i ben drwy drafod rhai agweddau ar yr amgylchedd gwaith a lles staff.

Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r cyrsiau canlynol wedi eu hachredu. Ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif hyfforddiant ddigidol.


Cofrestrwch eich diddordeb yn y cwrs