Disgrifiad

Bydd y cwrs byr yma’n rhoi cyflwyniad i chi i Syndrom Dirgryniad y Fraich a’r Llaw (HAVS).

Bydd y cwrs yn dechrau trwy sefydlu beth yn union yw Syndrom Dirgryniad y Fraich a’r Llaw, cyn rhoi disgrifiad manwl o symptomau ac effeithiau’r anhwylder.

Bydd wedyn yn rhoi trosolwg o’r offer a’r sefyllfaoedd yn y gwaith sydd fwyaf tebygol i beri risg o HAVS, a’r gwerthoedd datguddiad y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw yn ôl y gyfraith.

Ar ôl hyn, bydd y cwrs yn ymdrin â’r camau ymarferol y gallwch eu cymryd i leihau’r risg o HAVS, gan gynnwys y cyfrifoldebau y mae’n rhaid i gyflogeion a chyflogwyr gydymffurfio â nhw er mwyn lleihau’r risg.


Cofrestrwch eich diddordeb yn y cwrs