Disgrifiad
Bydd y cwrs yn dechrau drwy egluro’n union beth yw drws tân, edrych ar y gwahanol fathau o ddrysau tân sydd ar gael a sut y cânt eu hadeiladu.
Yna mae'n archwilio pam mae drysau tân yn bwysig, a cheir enghreifftiau go iawn o'r ffyrdd y maent yn gallu methu – gan ddangos y trychinebau a allai godi pan nad ydynt yn cael eu defnyddio’n briodol.
Yn dilyn hyn, mae'r cwrs yn manylu ar sut mae'n rhaid rheoli drysau tân – a'r ardaloedd cyfagos - er mwyn sicrhau eu bod yn diogelu pobl ac eiddo i’r eithaf.
Yn olaf, mae'r cwrs yn archwilio pwysigrwydd cynnal a chadw drysau tân, a'r camau ymarferol y gellir eu cymryd i sicrhau bod y drysau tân yn eich gweithle yn cyrraedd y safon.