Disgrifiad
Cwrs Ar-Lein
Bwriad y cwrs hwn yw rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddeall a nodi arwyddion camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
Mae'n cwmpasu'r goblygiadau cyfreithiol a chymdeithasol ar gyfer yr unigolyn ac i'ch cwmni os cewch wybod bod gweithiwr yn camddefnyddio cyffuriau.
Mae'r cwrs hwn yn trafod y gyfraith, gwahanol fathau o gyffuriau, a pholisïau y gellir eu rhoi ar waith i'ch amddiffyn eich hun, eich busnes a'ch gweithwyr.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r cyrsiau canlynol wedi eu hachredu. Ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif hyfforddiant ddigidol.