Disgrifiad
Cwrs Ar-Lein
Bydd y cwrs yn dechrau drwy ddiffinio urddas a phreifatrwydd o fewn y sector gofal iechyd, a bydd yn egluro sut mae'r ddau yn eithaf aml yn gysylltiedig.
Bydd yn mynd ymlaen wedyn i roi amrywiaeth o awgrymiadau proffesiynol defnyddiol i chi ynghylch sefydlu'r berthynas waith gywir gyda'ch defnyddwyr gwasanaeth, a thrafod rhai o'r materion a all godi pan na fydd urddas a phreifatrwydd yn cael eu parchu.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r cyrsiau canlynol wedi eu hachredu. Ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif hyfforddiant ddigidol.