Disgrifiad
Cwrs yn yr Ystafell Ddosbarth
Porwyr yn eich pryderu? Negeseuon testun yn destun dychryn? Meddwl bod ‘cwci’ yn rhywbeth sy'n dod gyda phaned a’r 'cwmwl' yn rhan o’r tywydd? Gadewch bopeth i ni.
Bydd ein tiwtoriaid cyfeillgar ac amyneddgar yn eich helpu i lywio'r byd digidol mewn ffordd hawdd ei deall, mewn dosbarthiadau anffurfiol sydd ddim byd tebyg i beth oedden nhw pan oeddech chi yn yr ysgol.
Wrth gwrs y byddwch chi'n dysgu pethau newydd, ond bydd popeth ar y lefel a'r cyflymder iawn i chi. Hyd yn oed os ydych chi'n ddechreuwr llwyr, gallwn ni ddechrau gyda 'throi’r ddyfais ymlaen’ ac wedyn symud ymlaen.
Felly, beth am daflu eich ofnau i’r ochr ac ymuno â dosbarth sgiliau digidol i oedolion, lle byddwch chi'n dysgu ochr yn ochr â phobl eraill sydd yn yr un sefyllfa â chi.
Byddwch chi’n rhyfeddu mor gyflym y bydd eich gwybodaeth a'ch sgiliau’n gwella o wythnos i wythnos.
Ddylai dysgu sgiliau digidol ddim eich dychryn – mae’n gallu bod yn hwyl!
Mae ein dosbarthiadau am ddim yn addas i ddechreuwyr pur a’r mwy profiadol.