Datblygu Cysylltiadau Da â Gweithwyr

Disgrifiad

Cwrs Ar-Lein

Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu'r manteision niferus y gall cysylltiadau da â gweithwyr eu cynnig i fusnes.

Mae'n esbonio sut i fagu hyder mewn rheoli, drwy rannu gweledigaeth y cwmni, adeiladu timau cryf a gwrando ar adborth.

Mae'n archwilio sut mae presenoldeb Adnoddau Dynol rhagweithiol o fudd i gysylltiadau gweithwyr.

Yna mae’n edrych ar rôl contractau cyflogaeth a'r Llawlyfr Gweithwyr.

Mae'r cwrs yn trafod Rheoli Perfformiad gan gynnwys ysgogi gweithwyr a'r ffordd orau o ddangos eich gwerthfawrogiad o'u cyfraniad.

Yn olaf, mae'n dangos i chi sut i ddelio'n effeithiol â chwynion, disgyblaeth a negyddoldeb.

Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r cyrsiau canlynol wedi eu hachredu. Ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif hyfforddiant ddigidol.


Cofrestrwch eich diddordeb yn y cwrs