Cyflwyniad i Weithdy Tylino Pen Indiaidd

Disgrifiad

Mae’r sesiwn tylino pen cynhwysfawr yma’n eich arwain yn ofalus trwy’r holl dechnegau tylino traddodiadol sy’n cael eu defnyddio.

Bydd y therapi yma’n cael ei wneud wrth eistedd ar gadair. Dyma flas o sut i berfformio Tylino Pen Indiaidd ar ffrindiau a theulu.

Dysgwch sut mae tensiwn yn cael ei ddal yn y gwddf a’r ysgwyddau.

Bydd y cwrs yma’n dangos i chi sut i helpu i leddfu tensiwn yn y mannau yma. Yn syml iawn, mae’n un o’r therapïau mwyaf ymlaciol sy’n bod.


Manylion y cwrs

Cod: FGC009

Dyddiad dechrau: Dydd Gwener 13 Tachwedd 2026

Amser: 10:00 - 14:00

Hyd: 1 sesiwn

Cost: £20.00

Lleoliad: CAG Croesyceiliog


Cofrestrwch eich diddordeb yn y cwrs