Ynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladu (CSCS) (CITB Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd)

Disgrifiad

Mae Canolfan Addysg Gymunedol Pont-y-pŵl yn gallu cynnig profion Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu CITB, sy’n cael ei gydnabod yn eang fel y safon ar gyfer profi cymhwysedd galwedigaethol yn y Diwydiant Adeiladu.

Trwy lwyddo i gwblhau prawf cerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu, mae crefftwyr yn gallu sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i wneud eu gwaith yn effeithiol ac yn ddiogel ar safleoedd adeiladu.

Mae’r dilysiad hwn yn elfen hanfodol i unrhyw un sydd am weithio yn y diwydiant adeiladu.

Mae yna dri math o brawf CITB ac Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch:

  • Gweithredwyr - profir ar gyfer lefel sylfaenol o ymwybyddiaeth iechyd, diogelwch ac amgylcheddol. Mae angen y prawf hwn wrth geisio am y cerdyn Labrwr, y cerdyn Hyfforddai, y cerdyn Prentis, y rhan fwyaf o gardiau Glas i Weithwyr Medrus a’r rhan fwyaf o gardiau Crefft Uwch Aur.
  • Rheolwyr a Gweithwyr Proffesiynol (MAP) - profir am bopeth yn y prawf i weithredwyr, a deunydd ychwanegol sy’n berthnasol i reolwyr a gweithwyr proffesiynol. Mae angen y prawf hwn wrth geisio am y cerdyn Du i Reolwyr a’r cerdyn i bobl â Chymwysterau Academaidd neu Broffesiynol. Diweddarwyd y prawf MAP ym mis Mehefin 2023 i sicrhau ei fod yn addas i reolwyr a gweithwyr proffesiynol heddiw, gan ystyried y newidiadau mewn deddfwriaeth, arferion gweithio, technoleg newydd ac anghenion y diwydiant.
  • Arbenigwyr - profir am bopeth yn y prawf i weithredwyr, a deunydd ychwanegol yn ymwneud â meysydd arbenigol fel goruchwylio neu weithio ar uchder. Mae gofyn gwneud profion arbenigol wrth geisio am y cerdyn Aur i Oruchwylwyr, yn ogystal â’r cerdyn Glas i Weithwyr Medrus neu’r cerdyn Crefft Uwch Aur mewn galwedigaethau penodol.

Gallwch hefyd gyflawni’r cymhwyster Lefel 1 Iechyd a Diogelwch mewn Amgylchedd Adeiladu gyda ni.


Cofrestrwch eich diddordeb yn y cwrs