Disgrifiad
Cwrs Ar-Lein
Mae'r cwrs hwn yn esbonio cefndir Legionella, y risgiau posibl sy'n gysylltiedig â systemau dŵr a sut y gellir atal neu reoli'r rhain.
Mae'n eich helpu i ddeall y risg mae Legionella yn ei achosi ac yn eich helpu i ddatblygu'r systemau a'r arferion gwaith sydd eu hangen arnoch i aros ar y blaen.
Mae'n rhoi digon o wybodaeth i chi gael rhaglen reoli Legionella ar waith eich hun – neu wneud dewisiadau hyderus a gwybodus wrth gomisiynu eraill i ymgymryd â hyn ar eich rhan.
Nodwch os gwelwch yn dda: Nid yw’r cyrsiau canlynol wedi eu hachredu. Ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif hyfforddiant ddigidol.