Disgrifiad
Beth sydd ‘allan fanna’? Sut mae adnabod y cytserau wrth edrych i’r awyr? Sut mae dewis telesgop? Oes yna fywyd yn rhywle arall yn y bydysawd?
Yn y cwrs cyflwyniad yma i seryddiaeth, byddwch yn ystyried y cwestiynau yma a rhai diddorol eraill hefyd.
Does dim angen unrhyw wybodaeth flaenorol arnoch chi, dim ond rhywfaint o chwilfrydedd.