Ynghyd â meysydd parcio un llawr, gweithredwn 2 faes parcio aml-lawr ym Mhont-y-pŵl, sef y Ganolfan Ddinesig a Riverside.
Er nad oes rhaid i chi dalu i ddefnyddio'r meysydd parcio hyn, mae cyfyngiadau aros o 4 awr o fewn rhannau ohonynt a chynghorir gyrwyr i ddarllen yr arwyddion lleol i weld pa rannau yw'r rhain.
Mae gorchmynion meysydd parcio yn eu lle i reoli defnyddio meysydd parcio ar draws Torfaen ac yn benodol y lleoliadau hynny â chyfyngiadau aros penodol, fel meysydd parcio Riverside, y Ganolfan Ddinesig a Rosemary Lane.
Lle mae mannau parcio i bobl anabl, mae'r rhain ar gyfer pobl anabl yn unig. Rhaid i yrwyr sy'n defnyddio'r cyfleusterau hyn sicrhau eu bod yn arddangos disg cloc amser i ddangos eu hamser cyrraedd.
Yn ogystal, mae'n rhaid parcio'n gyfan gwbl o fewn marciau'r lle parcio.
Gall methu â chydymffurfio â'r amodau hyn arwain at gamau fel cyhoeddi Hysbysiad Tâl Cosb.
Mae meysydd parcio cyhoeddus y Cyngor ar agor i'r cyhoedd ond mae'n bosibl y byddant ar gau ar adegau penodol yn unol ag oriau gweithredu sy'n cael eu hysbysebu'n lleol neu ar adegau arbennig y byddwn yn penderfynu arnynt.
Maes Parcio Aml-lawr Glan yr Afon
(y gallwch fynd ato o Lan yr Afon Pont-y-pŵl) Oriau agor: Llun - Sadwrn 7:00 am – 9:15 pm a Sul 9:00 am – 5:00 pm Lleoedd: Arhosiad hir a byr (4 awr) - 18 lle i'r anabl Cyfyngiadau: 4 awr o barcio ar rai lloriau
Maes Parcio Aml-lawr y Ganolfan Ddinesig
(Lefel 1, canolig a lefel 2) (y gallwch fynd atynt o Heol Glantorfaen, Pont-y-pŵl) Oriau agor: Llun - Sadwrn Lleoedd: 145 o leoedd arhosiad byr (4 awr) Cyfyngiadau: 4 awr o barcio (dim dychwelyd o fewn 4 awr)
Maes Parcio Rosemary Lane
(y gallwch fynd ato o Park Road Pont-y-pŵl) Oriau agor: Llun - Sul Lleoedd: 22 o leoedd arhosiad byr (2 awr) - 1 lle i'r anabl Cyfyngiadau: 2 awr o barcio ym mhob bae (dim dychwelyd o fewn 2 awr)
Canolfan Byw Egniol Pont-y-pŵl
(y gallwch fynd ati o Stryd Trosnant, Pont-y-pŵl) Oriau agor: Llun - Sul Lleoedd: 136 o leoedd arhosiad hir - 12 lle i'r anabl
Maes Parcio Clarence Corner
(y gallwch fynd ato o Stryd Trosnant, Pont-y-pŵl) Oriau agor: Llun - Sul Lleoedd: 46 o leoedd arhosiad hir - 8 o leoedd arhosiad byr (4 awr) - 2 le i'r anabl
Maes Parcio Stryd Trosnant Uchaf
(y gallwch fynd ato o Stryd Trosnant, Pont-y-pŵl) Oriau agor: Llun - Sul Lleoedd: 17 o leoedd arhosiad hir - 1 lle i'r anabl
Maes Parcio Stryd Trosnant Isaf
(y gallwch fynd ato o Stryd Trosnant, Pont-y-pŵl) Oriau agor: Llun - Sul Lleoedd: 19 o leoedd arhosiad hir
Maes Parcio'r Hen Felin (Stryd Trosnant)
(y gallwch fynd ato o Stryd Trosnant, Pont-y-pŵl) Oriau agor: Llun - Sul (6:45am-9:30pm) Lleoedd: 197 o leoedd arhosiad hir
Maes Parcio Park Terrace
Oriau agor: Llun - Sul (7am-7pm) Lleoedd: 30 o leoedd arhosiad hir
Meysydd parcio eraill i siopwyr
Caiff y cyfleusterau parcio canlynol eu rheoli'n breifat ac mae'n bosibl y bydd rhaid talu am eu defnyddio.
Tesco Pont-y-pŵl
Cwestiynau Cyffredin
Nid yw'r Cyngor wedi cyflwyno taliadau ar gyfer meysydd parcio ym Mhont-y-pŵl ond mae wedi gweithredu Gorchymyn i reoli'r defnydd o feysydd parcio. Mae'r Gorchymyn yn cyfyngu ar yr amser y gall cerbyd barcio ym maes parcio Rosemary Lane ac ar rai lloriau ym meysydd parcio Glan yr Afon a'r Ganolfan Ddinesig. Dim ond os ydych yn parcio'ch cerbyd am fwy na'r amser a ganiateir neu'n groes i amodau'r Gorchymyn y byddwn yn codi tâl arnoch.
Er bod digon o le i barcio ym Mhont-y-pŵl ar gyfer pawb sydd am barcio yno, mae'r Cyngor yn teimlo ei fod yn bwysig, er mwyn ffyniant canol y dref, y dylai ymwelwyr a siopwyr fod yn gallu parcio am gyfnod penodol yn agos i ganol y dref. Felly, mae rhai lleoedd sydd fwyaf cyfleus i ganol y dref wedi'u cyfyngu i 2 neu 4 awr.
Nid yw'r Cyngor yn codi tâl am barcio ond mae'n gorfodi tâl cosb os yw gyrwyr yn mynd y tu hwnt i'r terfyn amser a ganiateir. Mae'n bosibl y bydd terfynau amser a thaliadau cosb yn cael eu gorfodi ar feysydd parcio eraill yn y dyfodol ond nid oes unrhyw gynigion i wneud hynny ar hyn o bryd.
Nid yw perchnogion y ganolfan siopa yn codi tâl am barcio yng Nghwmbrân ac mae'r Cyngor yn credu na fyddai'n briodol codi tâl am barcio ym Mhont-y-pŵl gan y gallai hyn wneud Pont-y-pŵl yn llai deniadol i siopwyr.
Nac ydy. Mae'r taliadau yno er mwyn atal gyrwyr rhag parcio y tu hwnt i'r terfynau amser, er mwyn sicrhau y gall ymwelwyr a siopwyr barcio, sydd felly'n cyfrannu at ffyniant y dref.
Mae'r Cyngor yn teimlo ei fod yn bwysig, er mwyn ffyniant canol y dref, y dylai ymwelwyr a siopwyr fod yn gallu parcio am gyfnod penodol yn agos i ganol y dref. Felly, mae rhai lleoedd sydd fwyaf cyfleus i ganol y dref wedi'u cyfyngu i 2 neu 4 awr.
Mae'r Cyngor yn teimlo ei fod yn bwysig, er mwyn ffyniant canol y dref, y dylai ymwelwyr a siopwyr fod yn gallu parcio am gyfnod penodol yn agos i ganol y dref. Dewiswyd lleoedd ar rai lloriau penodol ar gyfer hyn gan ei fod yn haws mynd at y lloriau hyn o'r cysylltiad i Osborne Road ac mae'r Ganolfan Ddinesig yn cynnig rhywbeth tebyg ar ochr draw canol y dref.
Er bod digon o le parcio ar gael ym Mhont-y-pŵl ar gyfer pawb sydd am barcio yno, mae'r Cyngor yn teimlo ei fod yn bwysig, ar gyfer ffyniant canol y dref, y dylai ymwelwyr a siopwyr fod yn gallu parcio am gyfnod penodol yn agos i ganol y dref. Mae'n bosibl y bydd rhaid i weithwyr sy'n parcio am gyfnodau hwy gerdded ychydig ymhellach ond dylent fod yn gallu dod o hyd i le parcio.
Er bod digon o le parcio ar gael ym Mhont-y-pŵl ar gyfer pawb sydd am barcio yno, mae'r Cyngor yn teimlo ei fod yn bwysig, ar gyfer ffyniant canol y dref, y dylai ymwelwyr a siopwyr fod yn gallu parcio am gyfnod penodol yn agos i ganol y dref. Mae gan faes parcio Glan yr Afon gamerâu fideo diogeledd er mwyn tawelu meddwl cwsmeriaid ac er mwyn peidio ag annog gweithgareddau gwrthgymdeithasol.
Mae parcio i fynd i'r feddygfa neu weithio yno yn rheswm yr un mor ddilys â pharcio am resymau eraill, cyn belled â bod y cyfyngiadau amser yn cael eu dilyn. Mewn rhai achosion, mae'r Cyngor o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ganiatáu parcio ar gyfer meddygfeydd.
Mae'n ofynnol i staff meysydd parcio batrolio'r meysydd parcio yn rheolaidd ac, os gwelant fod cerbyd wedi parcio yno am ormod o amser, gallant gyhoeddi hysbysiad cosb. Nid oes ganddynt unrhyw ddisgresiwn o ran hyn. Cyfrifoldeb y gyrrwr yw symud y cerbyd o fewn y terfyn amser a ganiateir. Os oes rheswm dilys am fod dros y terfyn amser, mae rhif ffôn ar y tocyn i chi ei ffonio.
Mae astudiaethau wedi dangos bod digon o leoedd parcio i fodloni'r galw presennol. Fodd bynnag, mae'r Cyngor yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac, os yw galw am leoedd yn codi, mae'n bosibl y bydd y Cyngor yn ystyried darparu mwy o leoedd parcio.
Gallwch dalu'r gost ag arian, siec neu gerdyn credyd/debyd mewn unrhyw un o swyddfeydd arian y Cyngor. Neu gallwch dalu dros y ffôn neu ar y rhyngrwydd trwy ddefnyddio eich cerdyn credyd/debyd. Mae'r manylion ar gefn yr hysbysiad cosb.
Mae cyfyngiadau amser ar bedwar maes parcio yn unig. Mae gan Rosemary Lane gyfyngiad o 2 awr a chaiff lloriau yng Nglan yr Afon a baeau coch yn y Ganolfan Ddinesig eu cyfyngu i arhosiad o 4 awr. Nid oes cyfyngiadau yn ystod y dydd ar loriau eraill yng Nglan yr Afon nac unrhyw feysydd parcio eraill.