Cynllun Bathodynnau Glas

Trosolwg

Mae'r cynllun Bathodyn Glas yn galluogi pobl sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra i wneud y mwyaf o'u hannibyniaeth trwy wella'u mynediad at wasanaethau a chyfleusterau. Gallan nhw fod yn yrrwr neu'n deithiwr.

Does dim rhaid bod rhywun yn gallu gyrru er mwyn gwneud cais am Fathodyn Glas. Mae'r bathodyn ar gyfer yr unigolyn a gellir ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw gar pan fo'r unigolyn hwnnw'n deithiwr.

Darllenwch y wybodaeth sydd gyda’ch Bathodyn Glas i ddarganfod ble gallwch ei ddefnyddio ac na allwch ei ddefnyddio. Er enghraifft, ni allwch ddefnyddio Bathodyn Glas i barcio ar linellau igam-ogam, mewn ardaloedd lle gwaherddir aros neu lwytho, neu mewn mannau sydd wedi'u neilltuo ar gyfer cerbydau eraill, gan gynnwys trigolion neu dacsis.

Cymhwystra

Cyn i chi wneud cais am Fathodyn Glas, gwiriwch a ydych chi'n gymwys ai peidio​ (yn agor mewn tab newydd).

Rhaid i chi brofi'ch cymhwystra, does dim gwahaniaeth os ydych chi’n ceisio am Fathodyn Glas am y tro cyntaf neu'n adnewyddu eich Bathodyn Glas.

Peidiwch â gwneud cais i adnewyddu eich Bathodyn Glas yn gynharach na 4 wythnos cyn y dyddiad y mae'ch Bathodyn Glas yn dod i ben.

Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas ar-lein, neu, fel arall, gall rhywun lenwi'r ffurflen ar-lein ar eich rhan.

Bydd gofyn i chi ddarparu ffotograff neu sgan er mwyn:

  • profi pwy ydych chi (er enghraifft tystysgrif geni, pasbort, trwydded yrru neu docyn bws)
  • profi'ch cyfeiriad, wedi'i ddyddio yn y 12 mis diwethaf (er enghraifft bil treth gyngor, llythyr budd-daliadau neu fil cyfleustodau)
  • profi cymhwystra os ydych yn gwneud cais o dan gymhwystra awtomatig
  • profi'ch cyflwr meddygol a sut y mae'n effeithio ar eich symudedd os ydych yn gwneud cais o dan gymhwystra yn ôl disgresiwn

Bydd gofyn i chi hefyd roi:

  • eich Rhif Yswiriant Gwladol (os oes un gennych)
  • manylion y Bathodyn Glas sydd gennych ar hyn o bryd (os ydych chi'n adnewyddu)
  • ffotograff diweddar tebyg i lun pasbort. Gallwch chi dynnu'r ffotograff, ond rhaid ei fod wedi cael ei dynnu yn y 3 mis diwethaf. Dydyn ni DDIM yn gallu derbyn ffotograffau gydag unrhyw fath o ffilter neu ffotograffau sydd wedi eu gwella neu newid mewn unrhyw ffordd.
Gwneud cais am/adnewyddu bathodyn glas ceir (yn agor mewn tab newydd)

Fel arall, gallwch drefnu apwyntiad yn un o'n Canolfannau Gofal Cwsmeriaid.

Bathodynnau sydd wedi cael eu Colli/Dwyn

Ydy'ch Bathodyn Glas chi wedi cael ei golli neu ei ddwyn? Codir ffi weinyddol o £10 am fathodynnau newydd yn lle rhai sydd wedi cael eu colli neu ddifrodi.

Dweud am Fathodyn Glas wedi ei golli neu wedi ei ddwyn (yn agor mewn tab newydd)

Twyll neu gamddefnyddio Bathodyn Glas

Os ydych chi'n amau bod Bathodyn Glas yn cael ei gamddefnyddio, gallwch roi gwybod i ni.

Ceisiwch gael cymaint o fanylion â phosibl o'r Bathodyn sy'n cael ei arddangos (rhif cyfresol, dyddiad dod i ben ayb.) i'n helpu i ymchwilio a chymryd camau os dangosir bod y Bathodyn wedi cael ei gamddefnyddio.

Dweud am gamddefnydd o Fathodyn Glas (yn agor mewn tab newydd)

Bathodynnau Glas ar gyfer sefydliadau

Caiff sefydliad ei ddiffinio mewn deddfwriaeth fel “Sefydliad sy'n ymwneud â gofalu am unigolion anabl y mae modd rhoi bathodyn unigolyn anabl ar eu cyfer”.

Bydd bathodynnau sefydliadol dim ond yn cael eu rhoi felly i sefydliad sy'n:

  • Cludo a gofalu am bobl anabl sy'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf cymhwyster ar gyfer bathodyn glas unigol
  • Ac sydd ag angen clir am fathodyn sefydliadol yn hytrach na defnyddio bathodynnau glas unigol y bobl y mae'n eu cludo

Dylai'r bobl anabl o dan ofal y sefydliad fodloni un neu fwy o'r meini prawf cymhwyster canlynol am fathodyn glas:

  • Cael Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Lwfans Byw i'r Anabl
  • Cael yr Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
  • Yn gymwys i gael cerbyd wedi'i addasu a gynorthwyir gan grant arbennig
  • Wedi'u cofrestru'n ddall
  • Bod ag anabledd parhaol a sylweddol ac na allant gerdded neu sy'n cael anhawster sylweddol wrth gerdded

Lle mae nifer gymharol fach o bobl yn bodloni'r meini prawf cymhwyster am fathodyn sefydliadol, byddai'n well i'r unigolyn neu unigolion anabl ymgeisio am y bathodynnau, yn hytrach na rhoi un bathodyn i sefydliad. Mae hyn felly yn caniatáu i'r deiliad ddefnyddio'r bathodyn mewn unrhyw gerbyd y mae'n teithio ynddo.

Caiff bathodyn ei roi i sefydliad os oes ganddo gerbydau wedi'u trwyddedu o dan y dosbarth treth Teithiwr Anabl (DPV). Mae'n annhebygol y byddai tacsi neu weithredwr cerbydau preifat a gweithredwyr cludiant cymunedol yn gymwys am fathodyn glas sefydliadol, gan nad ydynt yn ymwneud fel arfer â gofalu am bobl anabl a fyddai'n bodloni un neu fwy o'r meini prawf cymhwyster.

Caiff bathodynnau eu rhoi i'r sefydliad neu adran ac nid i unigolion a enwir.

Er mwyn prosesu eich cais, bydd arnom angen y canlynol:

  • Copi o'ch eithriad treth mewn perthynas â DPV neu lythyr o gadarnhad gan y DVLA (os yn gymwys)
  • Copi o logo'r cwmni (caiff ei drosglwyddo i'r bathodyn)
  • Ffi weinyddu o £10.00 - ni allwn ad-dalu hyn

Galw Torfaen