Mae swyddogaethau Rheoli Adeiladu awdurdodau lleol hefyd yn delio â Strwythurau Peryglus. Mae Deddfwriaeth yn Neddf Adeiladu 1984 yn rhoi pwerau i'r Awdurdod Lleol ddileu unrhyw berygl a achosir gan strwythurau.
Gall strwythurau peryglus posibl gynnwys adeiladau adfeiliedig, waliau cynnal, waliau terfyn neu balis a theils to rhydd.
Fel rhan o weithredu'r pwerau hyn, rhaid i'r awdurdod lleol gymryd camau angenrheidiol i sicrhau iechyd a diogelwch y cyhoedd.
I roi gwybod am strwythur peryglus yn y fwrdeistref ffoniwch ni.