
Mae ffordd draddodiadol o ddifyrru yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd mewn dau grŵp cofnodi neu ‘ddyddiaduro’ cymunedol poblogaidd, sy'n helpu i fynd i'r afael ag ynysu cymdeithasol a gwella llesiant.
Mae dros 50 o drigolion wedi cymryd rhan mewn sesiynau dyddiaduro yng Nghwmbrân ac Abersychan, gan fynd ati i ysgrifennu er mwyn myfyrio ar eu meddyliau a'u teimladau i helpu i reoli straen a phryder.
Yng Nghwmbrân, ymunodd 20 o drigolion â rhaglen Dyddiaduro Cyfannol 12 wythnos yng Nghwmni Buddiant Cymunedol (CIC) Forgehammer ym mis Gorffennaf, dan arweiniad yr artist lleol Angela Ferreira.
Ochr yn ochr â dyddiaduro, cyflwynwyd y cyfranogwyr i dechnegau ymwybyddiaeth ofalgar, myfyrdod a hunanofal, sy’n gyfryngau ymarferol i wella’u llesiant, wrth fynd ati i ddatblygu cyfeillgarwch newydd.
Yn dilyn ei lwyddiant, mae nifer bellach wedi mynd ati ar eu liwt eu hunain i redeg eu grŵp ' Dyddiaduro Cyfannol dan arweiniad cymheiriaid’, sy’n cwrdd yn Forgehammer bob dydd Iau rhwng 10am a 12pm.
Dywedodd Amanda Herbert, o Fryneithin, a fynychodd y cwrs, ac sydd bellach yn gwirfoddoli yn y grŵp: "Gall dyddiaduro newid bywyd, hyd yn oed mewn ffyrdd bach. Rydw i wedi cwrdd â phobl anhygoel sydd wedi bachu'r cyfle a mynd amdani o ddifri.”
Ariannwyd y rhaglen sy’n seiliedig ar y celfyddydau a'r deunyddiau drwy Grant Dewis yr Aelodau gwerth £2,000 gan Gyngor Torfaen, ac fe wnaeth yr holl gyfranogwr gael eu dyddiadur eu hunain.
Roedd Alice Bosley, o CIC Forgehammer yn allweddol o ran cychwyn y prosiect, gan gydnabod ei botensial, a gweithio gyda’i chynghorydd lleol, y Cyng. Haynes, yr artist a thîm cymunedau’r Cyngor.
Yn y cyfamser, fe wnaeth CIC Cat & Crow lansio sesiynau dyddiaduro yn Hwb Cymunedol Coedwedd yn Abersychan ym mis Chwefror. Mae’r sesiynau’n cael eu cynnal bob dydd Mercher rhwng 1pm a 3pm.
Mae llwyddiant y grŵp, sy’n denu tua 8 o bobl bob wythnos, ers hynny wedi ehangu i CIC Forgehammer a Llyfrgell Cwmbrân, gan gynnig y gweithgaredd i hyd yn oed fwy o drigolion.
Meddai Kat Marriott-Wait, sy’n rhedeg y grŵp gyda’i gŵr Gareth “Gall dyddiaduro fod mor syml ag eistedd gyda beiro a phapur a chael yr amser a'r lle i roi meddyliau yn breifat ar bapur.
"Nid oes angen i chi fod yn awdur na gwybod beth yn union i'w ddweud pan fyddwch chi’n cyrraedd. Rydyn ni'n helpu pobl i ddod o hyd i fan cychwyn, a nhw sy'n penderfynu faint maen nhw am ei wneud neu ei rannu.”
"Mae'r canlyniadau wedi bod yn wych. Mae un aelod a gymerodd rhan yn teimlo bod y grŵp wedi ei helpu i fagu hyder ac ailgysylltu â bywyd y tu hwnt i'r sesiynau, ac mae un arall wedi mynegi diddordeb mewn dechrau grŵp cymunedol ei hun."
Dyfarnwyd gwerth £19,880 i CIC Cat & Crow, diolch i gyllid rhaglen Trailblazer a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy Lywodraeth Cymru, i ddarparu 48 o sesiynau llesiant, yn cynnwys gweithgareddau’n seiliedig ar ddyddiaduro.
Cefnogwyd y ddau brosiect gan Dîm Meithrin Gallu Cymunedol y Cyngor, sy'n gweithio ochr yn ochr â chymunedau i wireddu syniadau lleol, drwy helpu i sicrhau cyllid, cysylltu partneriaid a gwirfoddolwyr, a chefnogi prosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned, i ddatblygu a thyfu.
Dywedodd y Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau: "Mae'r prosiectau hyn a ysbrydolwyd gan Fargen Torfaen yn dangos sut y gellir gwneud gwahaniaeth parhaol, wrth dargedu buddsoddiadau cymharol fach yn y mannau cywir.
"Maent yn dod â phobl at ei gilydd, yn lleihau ynysu ac yn rhoi ffyrdd ymarferol i drigolion wella eu llesiant, gan helpu i feithrin cymunedau cryfach a fwy gwydn.”