
Mae arolygwyr Estyn yn dweud nad oes angen gwelliant sylweddol ar Ysgol Gyfun Abersychan mwyach ar ôl ymweliad monitro yn gynharach y mis hwn.
Rhoddwyd yr ysgol yn y categori hwn yn dilyn arolygiad ym mis Mai'r llynedd, gyda'r arolygwyr yn argymell pum maes allweddol i'w gwella.
Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, mae'r ysgol wedi gwneud cynnydd digonol mewn perthynas â'r holl argymhellion.
Dywedodd y Pennaeth Rhodri Thomas: "Rydym wrth ein bodd bod Estyn wedi tynnu Ysgol Abersychan o'r categori o ysgolion sydd angen gwelliant sylweddol. Mae'r canlyniad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad ac ymroddiad ein disgyblion, staff, llywodraethwyr a theuluoedd.
"Mae adroddiad monitro Estyn yn cydnabod y cynnydd sylweddol a wnaed ers yr arolygiad craidd, yn enwedig o ran cryfhau arweinyddiaeth, gwella ansawdd addysgu, gwella presenoldeb a datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd myfyrwyr ar draws y cwricwlwm.
"Rydym yn falch o'r cynnydd sydd wedi ei wneud, ond rydym yn parhau'n uchelgeisiol ar ran ein disgyblion ac rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar y gwelliannau hyn er budd ein cymuned ysgol gyfan."
Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Hoffwn longyfarch staff, disgyblion, llywodraethwyr a'r gymuned ehangach yn Ysgol Gyfun Abersychan am gymryd camau cadarnhaol ar unwaith i fynd i'r afael ag argymhellion Estyn.
"Bydd gwelliannau mewn addysgu, arweinyddiaeth a phresenoldeb yn sicrhau bod pob disgybl yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac y byddan nhw’n mynd ymlaen at lwyddiant mewn addysg bellach ac uwch ac yn y gweithle."
Yn dilyn arolygiad ym mis Mai 2025, gwnaeth arolygwyr Estyn bum argymhelliad: datrys mater diogelu penodol; cryfhau effaith arweinyddiaeth; gwella presenoldeb disgyblion, yn enwedig y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, a sicrhau datblygiad graddol sgiliau'r disgyblion ar draws y cwricwlwm.
Yn eu hadroddiad dilynol, nododd yr arolygiaeth:
- Bod rolau arweinyddiaeth uwch a chanol wedi'u hadolygu a'u mireinio'n briodol i ganolbwyntio'n glir ar flaenoriaethau gwella'r ysgol.
- Bod uwch arweinwyr wedi rhoi blaenoriaeth uchel i wella ansawdd yr addysgu.
- Bod athrawon yn datblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol â disgyblion ac yn defnyddio trefniadau defnyddiol yn yr ystafell ddosbarth i sicrhau bod llawer yn cymryd rhan yn bwrpasol mewn dysgu.
- Gwellodd y presenoldeb cyffredinol o 84.3% yn 2024–2025 i 87.0% yn 2025–2026
- Gostyngodd absenoldeb parhaus o 45.4% i 40.3% dros yr un cyfnod.
- Gwellodd presenoldeb ymhlith disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn sylweddol ac mae bellach yn cyd-fynd yn fras â phresenoldeb eu cyfoedion mewn ysgolion tebyg.
Mewn llythyr at Gadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, dywedodd yr arolygiaeth, er nad oedd angen ymweliadau monitro pellach, eu bod yn argymell bod gwelliannau yn parhau i gael eu gwneud.