
Mae mwy na 25 o bobl ifanc yn gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau trwy raglen wirfoddoli a sgiliau newydd.
Partneriaeth Garnsychan ym Mlaenafon sy’n rhedeg Youth 4 Change, ac, yn bennaf, mae’n cefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, i ennill sgiliau a phrofiad trwy wirfoddoli yn y gymuned.
Caiff pobl ifanc eu paru â chyfleoedd ar sail eu diddordebau ac maent wedi cael hyfforddiant achrededig mewn meysydd fel iechyd a diogelwch, codi a chario, cymorth cyntaf a hylendid bwyd.
Mae llawer yn helpu i ddatblygu gardd gymunedol newydd ym Mhentref Victoria yn Abersychan, yn ogystal â chefnogi prosiectau ailgylchu dodrefn ac uwchgylchu yn Circulate ym Mlaenafon.
Mae rhai gwirfoddolwyr hefyd yn cefnogi clwb cinio wythnosol yng Nghlwb Rygbi Tal-y-waun, gan ddarparu prydau bwyd a chyfleoedd cymdeithasol i tua 40 o drigolion lleol. Maent hefyd yn helpu i drwsio ac adnewyddu beiciau yn rhan o brosiect cynnal a chadw beiciau cymunedol a llyfrgell.
Ers i'r rhaglen ddechrau, mae pobl ifanc wedi cyfrannu mwy na 2,500 awr o wirfoddoli, gan gefnogi prosiectau a thrigolion ar draws y gymuned leol.
Meddai Cory Jones, a ymunodd â Youth 4 Change ym mis Awst ac sy'n helpu i redeg pantri a banc bwyd Garnsychan o ddydd i ddydd:
"Dw i'n hoffi bod yma. Dw i wedi gwneud ffrindiau newydd ac os oes angen rhywun arna’ i, i fy helpu neu rywun i siarad ag e’, dw i'n gwybod eu bod nhw ar gael. Os nad oeddwn i’n gwirfoddol fan hyn, fyddai gen i ddim llawer i'w wneud. Dyma’r lle gorau yn y byd ac mae'n fy helpu."
Ariannwyd y rhaglen Youth 4 Change trwy grantiau gan Sefydliad Cymunedol Cymru a Chymdeithas Adeiladu'r Principality.
Mae Partneriaeth Garnsychan yn cael cymorth grant gan Gyngor Torfaen i ddarparu gwasanaethau hanfodol sy'n cefnogi cymunedau lleol ac yn cyfrannu at gyflawni Bargen Torfaen y Cyngor.
Meddai Rhys Bowen, Gweithiwr Cymorth Pobl Ifanc Cyngor Torfaen, sydd wedi bod yn gweithio gyda'r gwirfoddolwyr i ddod o hyd i lwybrau i addysg bellach, hyfforddiant a chyflogaeth: "Mae'r cyfleoedd hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl ifanc. Trwy Youth 4 Change, maen nhw wedi gwella’u hyder, sefydlu arferion cadarnhaol, a datblygu sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr."
Yn ddiweddar, enillodd Partneriaeth Garnsychan y Wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr uchel ei bri. Dyma safon ansawdd y DU ar gyfer arfer da wrth reoli gwirfoddolwyr.
Mae'r achrediad a gydnabyddir yn genedlaethol yn adlewyrchu ymrwymiad y sefydliad i gefnogi a datblygu gwirfoddolwyr ac i gydnabod eu cyfraniad at brosiectau ac i'r gymuned ehangach.
Meddai Richard Shaw, Cydlynydd Gwirfoddolwyr gyda Phartneriaeth Garnsychan: "Mae'n wych gweld ein gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn yn y gymuned, ac yn ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr ar hyd y ffordd.
"Mae ein gwirfoddolwyr wrth galon popeth a wnawn, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn ymgysylltu, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu cefnogi, er mwyn gwneud cyfraniad ystyrlon.
"Mae ennill y Wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn ddathliad o'u hymroddiad, eu brwdfrydedd a'r effaith gadarnhaol maen nhw’n dal i’w chael."
Gall pobl ifanc sy'n ystyried gwirfoddoli drwy'r rhaglen wneud hynny trwy gysylltu â Phartneriaeth Garnsychan ar 01495 774453 neu drwy anfon neges trwy e-bost i info@garnsychan.org.uk (yn agor mewn tab newydd)