
Mae dau ofalwr ifanc wedi cael gwobr uchel ei bri gan Uchel Siryf Gwent am wneud mwy na’r disgwyl yn eu rolau gofalu.
Cafodd Izzy Pritchard, sy’n 18 oed ac o Gwmbrân, a Tianna Higgins, o Flaenafon, y wobr yr wythnos ddiwethaf mewn seremoni arbennig yng Nglan yr Afon yng Nghasnewydd.
Mae'r ddwy ferch yn cefnogi eu mamau sydd â ffibromyalgia - cyflwr cronig sy'n effeithio ar y cyhyrau - trwy helpu gyda thasgau yn y cartref a threfnu meddyginiaeth.
Mae Izzy hefyd yn helpu i ofalu am ei thad-cu sydd â Chlefyd Parkinson, gan roi seibiant mawr ei angen i’w mam-gu, ac mae’n gofalu am ei brawd bach pan fydd ei mam yn anhwylus.
Yn ddiweddar, cododd arian ar gyfer Parkinson's trwy grosio a helpodd i ddatblygu grŵp Gofalwyr Oedolion Ifanc Torfaen, gan hyrwyddo hawliau gofalwyr trwy ymgyrchu.
Meddai Izzy: "Mae cael cydnabyddiaeth ar gyfer y wobr hon yn golygu cymaint i fi. Mae'r gefnogaeth a gefais gan y Cyngor wedi bod yn amhrisiadwy er mwyn fy helpu i gael cydbwysedd rhwng fy nghyfrifoldebau a dilyn fy nyheadau."
"Rwy'n siŵr fy mod i'n siarad ar ran yr holl ofalwyr ifanc wrth ddiolch i chi am y cyfleoedd anhygoel rydych chi wedi'u rhoi i ni!"

Yn ogystal â gofalu am ei mam, mae Tianna’n cefnogi ei thad a gafodd strôc fawr, ac er gwaethaf ei heriau ei hun, mae hi'n parhau i gynnig cymorth cymheiriaid i ofalwyr ifanc eraill trwy grwpiau a gweithgareddau gwahanol.
Meddai Tianna, sydd hefyd yn eiriolydd trwy Fforwm Gofalwyr Ifanc Torfaen: "Rwy'n falch iawn fy mod wedi cael y wobr hon. Mae'r gwasanaeth cymorth i ofalwyr ifanc wedi fy ngalluogi i barhau i helpu eraill a rheoli fy nyletswyddau gofal fy hun ar yr un pryd."
Mae Gwobrau Cymunedol yr Uchel Siryf i Bobl Ifanc yn cydnabod unigolion sydd wedi cael effaith sylweddol yn eu cymunedau.
Ar y noson, cyflwynwyd 23 gwobr i unigolion sydd wedi rhagori mewn meysydd fel atal troseddu, cynhwysiant cymdeithasol, a chydlyniant cymunedol.
Gall gofalwyr ifanc yn Nhorfaen nawr edrych ymlaen at Ddiwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc yn Neuadd Brynhyfryd, Cwmbrân, ym mis Mawrth, gyda noson yn llawn gweithgareddau a chyflwyniadau.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol y Cyngor dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Rwy'n hynod o falch o Izzy a Tianna am eu hymroddiad a'u gwaith caled. Mae eu cyflawniadau yn dyst i nerth ein gofalwyr ifanc a’u gwytnwch.
"Hoffwn i hefyd dalu teyrnged i wasanaeth cefnogi gofalwyr y Cyngor am eu rôl amhrisiadwy yn helpu i roi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant."
Mae Gwasanaeth Gofalwyr Ifanc Torfaen yn rhoi cymorth i ofalwyr ifanc cofrestredig trwy grwpiau, gweithgareddau a datblygu cefnogaeth cymheiriaid. Maen nhw hefyd yn helpu gofalwyr ifanc i gael mynediad at wasanaethau cymorth eraill.
Mae gofalwr ifanc yn unigolyn o dan 18 oed sy'n gofalu am blentyn anabl neu oedolyn neu'n bwriadu gofalu amdanynt.
Gellir gofyn am asesiad gofalwyr ifanc trwy anfon neges trwy e-bost i socialcarecalltorfaen@torfaen.gov.uk (yn agor mewn tab newydd) neu ffonio 01495 762200.