
Mae gofalwr ifanc o Dorfaen wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol am y gefnogaeth anhygoel y mae'n ei rhoi i'w theulu, wrth iddi ennill Gwobr Child of Wales.
Cafodd Olivia Furley, sy’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân, ei henwi'n Ofalwr Ifanc Neilltuol yn seremoni wobrwyo Child of Wales yn Arena Abertawe ddydd Gwener.
Mae Olivia wedi helpu i ofalu am ei mam, Leanne, ers ychydig ar ôl ei phen-blwydd yn naw oed, pan newidiodd bywyd y teulu yn aruthrol ar ôl i Leanne ddechrau cael sawl trawiad bob dydd.
Cyn hyn roedd Leanne yn ffit ac yn iach, ond bu’n rhaid iddi dreulio cyfnod hir yn yr ysbyty, gan brofi mwy na 40 o drawiadau y dydd ar ei gwaethaf. Mae hi nawr yn defnyddio cadair olwyn ac mae ganddi barlys, mae wedi colli peth o’i lleferydd ac mae ganddi anawsterau gwybyddol sylweddol.
Ochr yn ochr â'i brawd hŷn Brandon, mae Olivia wedi ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu sylweddol, gan helpu i gadw ei mam yn ddiogel yn ystod trawiadau a'i chefnogi i fwyta, yfed, gwisgo a defnyddio’i chadair olwyn.
Mae Olivia yn un o 47 gofalwr ifanc yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân ac mae wedi cael cefnogaeth gan Dîm Gofalwyr Ifainc Cyngor Torfaen ers 2020.
Ers ymuno â'r gwasanaeth, mae hi wedi cymryd rhan mewn sesiynau grŵp, gweithgareddau awyr agored, gwyliau a chyfleoedd llesiant, ac mae’n defnyddio’i phrofiad fel aelod o'r Fforwm Gofalwyr Ifainc ar yr un pryd, i ddylanwadu ar wasanaethau cymorth lleol.
Meddai Olivia: "Rwy'n teimlo anrhydedd mawr o gael y wobr hon ac rwy'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth rydw wedi’i chael gan Ofalwyr Ifanc Torfaen a Miss Ayling yn Ysgol Uwchradd Cwmbrân.
"Maen nhw wedi fy helpu i fod yn fwy agored ac yn falch o bwy ydw i. Ar ôl hyn, rydw i wedi bod eisiau eirioli dros ofalwyr a chodi ymwybyddiaeth yn yr ysgol a'r gymuned.
"Hoffwn hefyd ddiolch i fy nhad am fy enwebu. Rwy'n credu bod llawer o bobl eraill yn haeddu'r wobr, gan fod pob gofalwr ifanc yn gwneud eu gorau glas a dylid eu deall a'u parchu."
Yn ystod y noson wobrwyo cafodd Oliver Baggot, 12 oed, y Wobr am Ddewrder hefyd, i gydnabod ei ddewrder anhunanol pan aeth darn o dân gwyllt o’i le a thanio i mewn i’r dorf ar Noson Tân Gwyllt y llynedd.
Neidiodd Oliver i mewn i amddiffyn ei frawd a'i chwaer iau, gan roi eu diogelwch nhw o flaen ei ddiogelwch ef ei hun.
Tu hwnt i'w rôl ofalu, mae Olivia yn Llysgennad Cynhwysiant Iau gyda Chlwb Rygbi’r Dreigiau, ac yn defnyddio’i phrofiadau i helpu eraill i deimlo bod croeso a lle iddynt.
Meddai tad Olivia, Wayne: "Mae Olivia wedi tyfu i fyny gyda chyfrifoldebau na fyddai disgwyl i'r rhan fwyaf o blant ei hoedran hi eu hwynebu.
"Rydyn ni'n falch dros ben ohoni. Mae'n gyflawniad anhygoel, ond mae gwybod popeth y mae Olivia wedi'i wynebu a'r rôl sydd ganddi o fewn ein teulu yn gwneud y gydnabyddiaeth hon hyd yn oed yn fwy arbennig."
Bydd Olivia hefyd yn cael ei chydnabod yn ffurfiol am ei chyflawniad mewn cyfarfod o Gyngor Torfaen ym mis Tachwedd.
Mae Gofalwyr Ifainc Torfaen yn cefnogi mwy na 200 o bobl ifanc ar draws y Fwrdeistref.