
Mae ysgol uwchradd wedi bod yn dilyn y cysylltiad rhwng presenoldeb a chanlyniadau TGAU.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Ysgol Uwchradd Gatholig Alban Sant, ym Mhont-y-pŵl, wedi bod yn cymharu cyfraddau presenoldeb disgyblion ym Mlwyddyn 11 â'u graddau.
Mae eu data yn dangos bod disgyblion Blwyddyn 11 sydd â phresenoldeb o 95 y cant yn ennill graddau B ar gyfartaledd.
Mae hynny'n cymharu â disgyblion sydd â chyfraddau presenoldeb rhwng 95 y cant a 90 y cant sy’n cael graddau C ar gyfartaledd, a disgyblion â phresenoldeb o 90 y cant neu’n is sy'n cael graddau D ar gyfartaledd.
Dyma'r astudiaeth hirdymor gyntaf i'r cysylltiad rhwng presenoldeb a chanlyniadau arholiadau yn Nhorfaen ac mae'r data'n helpu staff i ddarparu cymorth wedi'i dargedu, gan gynnwys cymorth llesiant, mentora a chyswllt â theuluoedd.
Mae'r gefnogaeth honno'n sicrhau gwelliannau sylweddol, gyda phresenoldeb un disgybl yn codi o 46% i 90.7%, tra bod un arall wedi codi o 77% i 85.2%.
Meddai Kevin Jones, Pennaeth Cynorthwyol Llesiant a Chynhwysiant: "Mae presenoldeb yn un o ddangosyddion cryfaf llwyddiant academaidd. Mae ein data'n dangos yn glir fod disgyblion sy'n mynychu'r ysgol yn rheolaidd yn cael canlyniadau llawer gwell.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda disgyblion a theuluoedd i gael gwared ar rwystrau i bresenoldeb a darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn i bob unigolyn ifanc ffynnu yn academaidd ac yn bersonol."
Mae disgyblion sydd â phresenoldeb gwael yn cael pecynnau cymorth unigol i sicrhau bod ganddynt yr arweiniad a'r cymorth sydd eu hangen arnynt trwy gydol eu taith addysgol.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae'r ymchwil hwn yn atgyfnerthu astudiaethau mewn mannau eraill sy'n dangos bod presenoldeb yn yr ysgol yn hanfodol i lwyddiant disgyblion.
"Mae disgyblion sydd â chyfraddau presenoldeb cyfartalog o 90 y cant yn colli'r hyn sy'n cyfateb i hanner diwrnod yr wythnos neu fis y flwyddyn, sy'n gallu cael effaith fawr ar ba mor dda maen nhw'n gwneud. Mae'n bwysig fod disgyblion a theuluoedd yn gofyn am help os oes ei angen arnynt er mwyn sicrhau bod modd rhoi mesurau ar waith i'w helpu i gyflawni eu nodau."