Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Taith gerdded a rhedeg gymunedol ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn

White Ribbon Day campaign graphic

Mae taith gerdded a rhedeg gymunedol yn cael ei threfnu i nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn eleni.

Mae yna wahoddiad i fenywod, dynion a phlant ddod i’r digwyddiad 'Mae’n Cymryd Pob Un Ohonom', yn North Fields, Cwmbrân, ddydd Mercher 25 Tachwedd, i nodi diwrnod rhyngwladol dileu trais yn erbyn menywod.

Trefnwyd y digwyddiad gan dîmau Diogelwch Cymunedol ac Iechyd, Chwaraeon a Ffitrwydd y Cyngor, ac mae'n cefnogi ymgyrch 'Own The Night' Athletau Cymru, sy'n ceisio grymuso menywod i allu rhedeg yn ddiogel gyda'r hwyr.

Diffinnir Trais yn Erbyn Menywod a Merched (VAWG) fel; unrhyw weithred o drais ar sail rhywedd sy'n arwain at, neu sy'n debygol o arwain at, niwed neu ddioddefaint corfforol, rhywiol neu seicolegol i fenywod.

Eleni, mae thema Diwrnod y Rhuban Gwyn, 'Mae’n Cymryd Pob Un Ohonom', yn tynnu sylw at y ffordd y gall trais yn erbyn menywod a merched ddechrau gydag agweddau ac ymddygiad sy'n cael eu diystyru fel "dim ond jôc ", "dim ond ychydig o dynnu coes" neu "dim ond bechgyn yn bod yn fechgyn."

Mae'r ymgyrch yn galw ar bawb i herio rhywiaeth bob-dydd ac ymddygiad niweidiol, yn hytrach na'u hanwybyddu neu eu hesgusodi.

Er mwyn cymryd rhan yn y digwyddiad, dylai'r cyfranogwyr gwrdd ym Maes Parcio Edlogan Way, Cwmbrân, am 5.30pm, yn barod i ddechrau am 6pm.

Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau:

"Dydy trais yn erbyn menywod a merched ddim yn dod allan o unman. Gall ddechrau gyda rhywbeth sy'n cael ei ddiystyru fel 'ychydig o dynnu coes’, a dyna pam mae mor bwysig ein bod ni’n herio agweddau ac ymddygiad niweidiol pan fyddwn ni’n eu gweld.

"Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn yn ein hatgoffa ei fod yn cymryd pob un ohonom, yn ddynion, yn fenywod, yn fechgyn ac yn ferched, i godi llais a helpu i greu cymunedau lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu.

"Mae'r digwyddiad hwn yn nodi dechrau ymrwymiad ehangach trwy fenter ‘Own The Night’ Rhedeg Cymru, gan ein helpu i hyrwyddo diogelwch cymunedol, annog ffyrdd actif o fyw, a chreu amgylcheddau lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel, yn hyderus a’u bod yn cael eu cefnogi."

Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn hefyd yn nodi dechrau'r 16 Diwrnod o Weithredu yn Erbyn Trais ar Sail Rhywedd, sef ymgyrch ryngwladol sydd ar y gweill tan 10 Rhagfyr.

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, gallwch anfon neges trwy e-bost i: CommunitySafetyTeam@torfaen.gov.uk (yn agor mewn tab newydd)