Gwirfoddolwyr yn cefnogi teuluoedd Torfaen drwy chwarae

Volunteers and children at the Pop in and Play session

Mae wyth o wirfoddolwyr bellach yn gweithio ochr yn ochr â thîm Blynyddoedd Cynnar Cyngor Torfaen, gan gefnogi sesiynau Galw Heibio i Chwarae ar draws y Fwrdeistref.

Mae'r fenter yn rhan o ddull newydd a gyflwynwyd gan wasanaeth Blynyddoedd Cynnar y Cyngor trwy Fargen Torfaen, sy’n dod â thrigolion a gwasanaethau at ei gilydd i gefnogi plant a theuluoedd yn well.

Meddai Emma Treadgold, Rheolwr Cymorth Cynnar a Phartneriaeth gyda Chyngor Torfaen: "Mae'r gwirfoddolwyr yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant trwy gyflwyno sesiynau cymorth i deuluoedd a meithrin cysylltiadau â rhieni a phlant ifanc yn eu cymunedau.

"Daw’r gwirfoddolwyr o amrywiaeth o gefndiroedd, gan gynnwys rhieni sy’n mynychu grwpiau yn barod, myfyrwyr sydd yn y coleg ac sy'n ennill profiad gwaith gwerthfawr, a gweithwyr proffesiynol sydd wedi ymddeol.

"Maen nhw'n helpu i groesawu teuluoedd, sefydlu gweithgareddau chwarae ac annog cyfranogiad yn ystod y sesiynau. Mae eu cyfraniad yn galluogi staff blynyddoedd cynnar cymwys y Cyngor i dreulio mwy o amser yn cefnogi teuluoedd y mae angen cymorth ychwanegol arnynt."

Ymhlith y rheiny sy'n gwirfoddoli mae Lyn Cleverly, a ymunodd â sesiwn Galw Heibio i Chwarae yn Ysgol Gynradd Griffithstown ym mis Ebrill.

Meddai Lyn: "Ers ymddeol fel nyrs ysgol, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth gwerth chweil a rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned.

"Mae fy ŵyr yn byw i ffwrdd ac rydw i wrth fy modd yn treulio amser gyda phlant. Mae gwirfoddoli yn fy nghadw i'n actif, ac yn gysylltiedig, ac rwy'n mwynhau pob munud."

Mae'r gwasanaeth wedi gweld twf yn y galw am gymorth un-i-un i deuluoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda llawer o deuluoedd yn dewis sesiynau galw heibio hyblyg yn amlach, yn hytrach na rhaglenni strwythuredig.

Trwy gynnwys gwirfoddolwyr, mae'r tîm wedi ehangu ei gynnig ac yn sicrhau bod staff arbenigol ar gael o hyd i weithio gyda theuluoedd sy'n wynebu heriau mwy cymhleth.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant a Theuluoedd gyda Chyngor Torfaen: "Mae ein rhaglenni rhianta yn chwarae rhan hanfodol wrth gryfhau teuluoedd, gwella perthnasoedd rhwng rhieni a phlant a chefnogi datblygiad cadarnhaol plant.

"Mae ein Rhaglen Gwirfoddoli’r Blynyddoedd Cynnar sydd newydd gael ei sefydlu yn gwneud gwahaniaeth go iawn, gan ein galluogi i gyrraedd mwy o deuluoedd ac ymgysylltu â mwy o deuluoedd. Yn ei dro, mae hyn hefyd yn caniatáu i staff ganolbwyntio ar y teuluoedd hynny y mae angen cymorth mwy dwys arnynt , a rhoi cefnogaeth un i un iddyn nhw.

"Mae'r Fargen yn golygu gweithio gyda chymunedau a chydnabod y rôl werthfawr y gall pobl leol ei chwarae i helpu plant a theuluoedd i ffynnu."

Yn ogystal â chefnogi'r sesiynau Galw Heibio i Chwarae poblogaidd, mae'r gwirfoddolwyr hefyd yn arwain sesiynau Cyfnewid, yn cefnogi gweithgareddau Ysgol y Goedwig ac yn helpu i hyrwyddo Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen.

Mae pob gwirfoddolwr yn cael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac yn cael hyfforddiant, pecyn sefydlu a gwisg cyn dechrau.

Datblygwyd Rhaglen Wirfoddoli’r Blynyddoedd Cynnar gyda chefnogaeth Cynghrair Gwirfoddol Torfaen, a helpodd i sefydlu’r trefniadau recriwtio, hyfforddi a llywodraethu.

Am ragor o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli neu sesiynau Blynyddoedd Cynnar Torfaen, ewch i wefan Cysylltu Torfaen (yn agor mewn tab newydd).