Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Tref Blaenafon yn dod ynghyd

Volunteers at Blaenavon Towns Together community action day in Broad Street, Blaenavon

Ymunodd dros 20 o wirfoddolwyr â staff y cyngor, busnesau a grwpiau cymunedol ar gyfer diwrnod gweithredu cymunedol cyntaf Trefi Gyda'n Gilydd Blaenafon.

Daeth y digwyddiad, a gynhaliwyd ddydd Sadwrn, â phobl at ei gilydd i helpu i wella canol y dref, gyda gwirfoddolwyr yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau ar hyd Broad Street a Commercial Street.

Trwy gydol y dydd bu gwirfoddolwyr yn golchi meinciau, yn chwynnu ardaloedd o amgylch y dref, yn glanhau blaenau siopau ac yn helpu i dacluso mannau cyhoeddus. Roedd lluniaeth yng Nghapel Bethlehem hefyd i'r rhai a gymerodd ran.

Wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad, gwnaeth tîm Strydlun y cyngor waith glanhau dwfn yng nghanol y dref ymlaen llaw a gwaith cynnal a chadw coed ar y diwrnod i helpu i wella ymddangosiad a gwelededd y dref a'i meysydd parcio a ddefnyddir yn dda.

Dywedodd Jaden McGowan: "Clywais am y digwyddiad ym Mlaenafon ac roeddwn i'n gwybod fy mod eisiau cymryd rhan. Rwyf wrth fy modd â'r syniad o wneud Blaenafon yn wyrddach ac yn lanach.

"Fe wnes i fwynhau mynd o gwmpas Blaenafon yn casglu sbwriel ac rwy'n teimlo fel bod ychydig oriau yn gwneud hynny yn y dref eisoes wedi gwneud gwelliant enfawr i'r dref. Rwy'n teimlo'n falch o fod yn rhan o rywbeth fel hyn."

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Diolch i bawb a roddodd eu hamser i gefnogi ein diwrnod gweithredu cyntaf Trefi Gyda'n Gilydd ym Mlaenafon.

"Roedd yn wych gweld trigolion, busnesau, sefydliadau cymunedol a staff y cyngor yn gweithio ochr yn ochr â’i gilydd fel rhan o Fargen Torfaen ac i wneud gwahaniaeth gweladwy ym Mlaenafon."

Mae'r rhaglen Trefi Gyda'n Gilydd yn ffordd newydd o wella a chynnal canol trefi gyda thimau'r cyngor yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol i adfer balchder a dod â phobl yn ôl i'r stryd fawr.

Dilynodd digwyddiad cyntaf Trefi Gyda'n Gilydd Blaenafon ddiwrnod gweithredu cyntaf Trefi Gyda'n Gilydd Pont-y-pŵl ym mis Medi, pan ymunodd tua 30 o wirfoddolwyr â thimau'r cyngor i lanhau Stryd y Craen, The Link, Stryd Fasnachol, a Stryd Siôr.

Mae Partneriaeth Garnsychan wedi cytuno i gadw'r momentwm i fynd a threfnu digwyddiadau Trefi Gyda'n Gilydd yn y dyfodol.

Mae lansiad Trefi Gyda'n Gilydd Blaenafon yn dilyn dadorchuddio murlun newydd yn siopau blodau Botanic Possessions, yn Broad Street, ym mis Medi, fel rhan o lwybr murlun newydd Y Golau Yn Ein Dwylo.

Mae cynlluniau hefyd ar y gweill ar gyfer murlun ar ochr Gwesty'r Castell, Broad Street.