Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Dathlu gwirfoddolwyr mewn gwobrau blynyddol

Group photo of volunteers at the awards ceremony

Cafodd dros 190 o wirfoddolwyr eu cydnabod am eu cyfraniad i gymunedau ar draws y Fwrdeistref yng Ngwobrau Cymunedau a Gwirfoddolwyr Torfaen.

Trefnwyd y gwobrau gan Gynghrair Gwirfoddol Torfaen, ac fe’u cynhaliwyd yng Ngwesty'r Parkway, Cwmbrân. Dathlwyd 11 categori, gan gynnwys dwy Wobr arbennig gan Uchel Siryf Gwent.

Mae’r gwobrau bellach yn eu chweched flwyddyn ac yn cydnabod yr unigolion, y grwpiau a’r sefydliadau sy'n gwneud mwy na’r disgwyl i gefnogi eraill a chryfhau eu cymunedau.

Enillodd Clwb Rygbi Cwmbrân Wobr Calon y Gymuned am ei waith yn cefnogi dros 300 o blant drwy ei adrannau Brain Bach, Bach ac Iau.

Ochr yn ochr â rygbi, mae gwirfoddolwyr yn darparu prydau poeth ar ddydd Sul, yn gweithio gydag ysgolion lleol, yn cefnogi grwpiau cymunedol ac yn rhedeg hwb cynnes.

Meddai James Rawbone, o Glwb Rygbi Cwmbrân: "Er fy mod i wedi bod yn ddigon ffodus i gael y wobr ar y noson, mae'r gydnabyddiaeth yn perthyn i bob un o'n gwirfoddolwyr sy'n rhoi o’u hamser i gadw'r clwb i redeg a chefnogi ein cymuned ehangach.

"Efallai eu bod nhw’n hyfforddi plant, yn gweini prydau bwyd, yn cefnogi cyn-filwyr neu'n helpu rhywun a allai fod yn teimlo'n ynysig. Beth bynnag fo’u cyfraniad, mae’n mynd ymhell y tu hwnt i rygbi."

Aeth Gwobr Gwirfoddolwr Oedolion y Flwyddyn i Nathan Edmunds, y mae ei wirfoddoli yn rhychwantu iechyd, elusen, chwaraeon a bywyd y gymuned.

Mae Nathan yn rhoi cwmnïaeth i breswylwyr sy'n byw gyda dementia yng Nghartref Gofal Tŷ Cwmbrân, mae wedi sefydlu clwb garddio ac mae’n cefnogi nifer o elusennau trwy godi arian a rolau llysgennad.

Meddai Nathan: "Roedd ennill y wobr hon yn foment falch ac arbennig iawn. Mae gwirfoddoli yn hynod werth chweil, ac roedd yn fraint rhannu'r noson gyda chymaint o wirfoddolwyr ysbrydoledig.

"Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r gwirfoddolwyr gwych ar draws Torfaen sy'n rhoi o’u hamser i gefnogi eu cymunedau a gwneud gwahaniaeth go iawn."

Cyflwynwyd Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn i Darla Pearce, sy’n 13 oed ac sy'n hyfforddi chwaraewyr rygbi ieuengaf Blaenafon ac yn cefnogi pêl-rwyd iau.

Mae Darla yn helpu plant iau i fagu sgiliau a hyder ac mae hefyd yn codi arian i elusennau, gan gynnwys digwyddiad 24 awr Relay for Life.

Roedd yr enillwyr eraill yn cynnwys:

  • Gwirfoddolwr/Grŵp Chwaraeon y Flwyddyn: Ian Evans, Sporting Memories
  • Gwirfoddolwr Iechyd y Flwyddyn: Ffrind i Mi
  • Gwirfoddolwr/Grŵp Amgylcheddol y Flwyddyn: Gerddi Cymunedol Croesyceiliog
  • Gwobr Busnes yn y Gymuned: Mindful Munch
  • Gwobr y Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth: Sharon Ford
  • Grŵp Plant ac Ieuenctid y Flwyddyn: Clwb Interact Ysgol Croesyceiliog
  • Arweinydd Cymunedol y Flwyddyn: Phil Adams
  • Gwobr Cymydog Da: Andrew Bowen

Cyflwynwyd Gwobrau Arbennig Uchel Siryf Gwent hefyd i Kyle Greenhalf a Lillian Roberts i gydnabod eu cyfraniad neilltuol i'w cymunedau.

Meddai Aimi Morris, Prif Swyddog Gweithredol Cynghrair Gwirfoddol Torfaen: "Mae'r gwobrau hyn yn dathlu caredigrwydd ac ymrwymiad pobl ar draws Torfaen sy'n rhoi o’u hamser er budd eu cymunedau. Maent hefyd yn cael eu noddi gan lawer o bartneriaid a busnesau lleol, a hebddyn nhw ni fyddent yn bosibl

"Dylai pob un a enwebwyd deimlo'n falch: sylwodd rhywun ar y gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud a phenderfynu bod eisiau ei gydnabod. Mae yna gymaint nad ydym wedi clywed amdano o hyd, felly daliwch ati i rannu'r straeon hynny gyda Chynghrair Gwirfoddol Torfaen."

Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Roedd hi'n noson anhygoel i ddathlu'r gorau o wirfoddolwyr Torfaen; pobl sy'n rhoi o’u hamser i gefnogi eu cymunedau heb geisio canmoliaeth na sylw.

"Rwy’n diolch i Gynghrair Gwirfoddol Torfaen, y beirniaid a phawb a gymerodd yr amser i enwebu. Dylai pob enwebai fod yn falch dros ben."