
Daeth mwy na 1,200 o bobl i ganolfan antur dan do newydd yng Nghwmbrân yn ystod ei phenwythnos agoriadol.
Mae'r Flip Out cyntaf yng Nghymru, a agorodd ar safle hen farchnad dan do y mis hwn, yn un o dri phrosiect adfywio i'w cwblhau eleni, diolch i raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a weinyddir gan Gyngor Torfaen.
Fe gafodd y fenter grant o £250,000 yn 2025 tuag at adnewyddu'r safle, a oedd hefyd yn gartref i sinema a neuadd fingo ar un adeg.
Mae dau eiddo ar Market Street, ym Mhont-y-pŵl, gan gynnwys yr hen Scrum Half, hefyd wedi cael grantiau i'w trawsnewid yn unedau masnachol a phreswyl.
Meddai’r Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, Siân Gwenllian: "Mae'r llywodraeth hon yn credu yng nghanol ein trefi a’n dinasoedd a, gyda chefnogaeth y rhaglen Trawsnewid Trefi, rydym yn gweld adeiladau sydd wedi bod yn wag ers tro yng Nghwmbrân a Phont-y-pŵl yn cael eu troi'n lleoliadau hamdden, gweithleoedd a chartrefi.
"Ochr yn ochr â'r buddsoddiad mawr yn Nhŷ Gwent a Sgwâr Gwent, a fydd yn darparu 77 o gartrefi newydd, mae hyn yn helpu i wneud canol ein trefi'n lleoedd bywiog i fyw, gweithio ac ymweld â nhw. Rwy'n ddiolchgar i Gyngor Torfaen a'n partneriaid yn y sector preifat am wneud i hyn ddigwydd."
Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae Trawsnewid Trefi yn golygu mwy na gwelliannau ffisegol – mae'n golygu creu cymunedau cynaliadwy, llewyrchus y mae pobl eisiau byw a gweithio ynddynt ac ymweld â nhw.
"Mae'r buddsoddiad wedi ei gysylltu’n agos â'n Cynlluniau Creu Lleoedd lleol, a ddatblygwyd gyda busnesau lleol a buddsoddwyr er budd ein cymunedau lleol."
Mae rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i ailddatblygu ac adfywio canol trefi.
Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai hefyd yn darparu o leiaf £1.25m o gyllid Trawsnewid Trefi ychwanegol tuag at drawsnewid Sgwâr Gwent, ac mae disgwyl i’r gwaith ddechrau’r flwyddyn nesaf.
Meddai Adam Martin, Cyfarwyddwr LCP UK, rhan o M Core a Rheolwr Asedau i M Cwmbrân: "Mae agor Flip Out yn garreg filltir bwysig iawn i M Cwmbrân ac yn dangos yr effaith bositif y gall cydweithio rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus ei chael.
"Drwy'r rhaglen Trawsnewid Trefi, rydym wedi gallu denu gweithredwr hamdden teuluol mawr i ganol y dref, gan greu swyddi, gwella profiad ymwelwyr a chefnogi twf parhaus Cwmbrân fel cyrchfan fywiog i'r gymuned leol."
Mae Flip Out, wedi creu 50 o swyddi newydd ac yn un o dri busnes hamdden newydd i agor yng nghanol tref Cwmbrân, ac mae Nando's ac All Star Bar hefyd ar fin agor yn Hamdden Cwmbrân Leisure ym mis Ionawr 2027.
Ym mis Hydref, fe fu miliwn o bobl yn ymweld â Chanolfan Siopa Cwmbrân Shopping, sy’n record newydd.