Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Rydym yn nesáu at Sioe Greenmeadow eleni

Farm show promotion featuring prize flowers, home-grown vegetables, decorated produce and a themed cake, with the text "Farm Show returns!" across

Rydym yn nesáu at Sioe Greenmeadow eleni, gyda dim ond wythnos ar ôl i’r pobyddion, garddwyr, crefftwyr a ffotograffwyr gyflwyno eu ceisiadau i’r sioe.

Bydd y dathliadau, ar ddydd Sadwrn, 13 Medi, yn dod â phobl o bob oed ynghyd i nodi blwyddyn ers ailagor Fferm Gymunedol Greenmeadow.

O 10am tan 5pm, gall ymwelwyr edrych ymlaen at arddangosfeydd o gynnyrch cartref, blodau, cynnyrch pobi, ffotograffiaeth a chrefftau, ochr yn ochr ag amrywiaeth o ddosbarthiadau i blant gyda’r bwriad o annog pobl ifanc i gymryd rhan.

Dywedodd Rheolwr y Fferm, Jac Griffiths: "Mae Sioe’r Fferm yn gyfle i bobl ddangos eu talentau, p’un ai ydyn nhw’n brofiadol wrth arddangos neu’n ymgeisio am y tro cyntaf.

"Rydym wedi ein cyffroi’n arbennig y bydd sioe eleni – y gyntaf ers ailagor – yn rhan o’n dathliadau pen blwydd. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r gymuned i gael diwrnod anhygoel yn y fferm."

Felly os ydych chi wedi gwau rhywbeth rhagorol, wedi gosod blodau sy’n ddigon da i ennill gwobr, mae amser o hyd i chi roi cynnig. Mae yna ddosbarthiadau ar gael i bobl o bob oed a phob gallu - ewch i wefan Fferm Gymunedol Greenmeadow i weld y categorïau ac i weld sut i ymgeisio. Rhaid cyflwyno pob ymgais erbyn 5pm, ddydd Mercher, 2 Medi.