Heulwen ac Ysbryd Cymunedol ym Mhentref Bargen Torfaen

Torfaen Deal Village at the Big Event

Roedd tywydd perffaith yr haf yn gefndir i ddiwrnod gwych yn Nigwyddiad Mawr Cwmbrân ddydd Sadwrn, wrth i filoedd o drigolion ac ymwelwyr ddod at eil gilydd wrth y Llyn Cychod ar gyfer diwrnod o hwyl am ddim i'r teulu a drefnwyd gan Gyngor Cymuned Cwmbrân.

Cynhaliodd Cyngor Torfaen ei Bentref Bargen cyntaf erioed yn y digwyddiad poblogaidd, gan gynnig cyfle i bobl ddysgu am ffordd newydd y Cyngor o weithio ochr yn ochr â chymunedau a sefydliadau partner i wella bywydau ar draws y Fwrdeistref.

Roedd Pentref Bargen Torfaen yn llwyddiant ysgubol, a daeth bron i 400 o bobl i ymweld â'r lolfa gymunedol i archwilio'r amrywiaeth eang o weithgareddau a chefnogaeth sydd ar gael yn lleol. Daeth 264 i ymweld â'n tîm prentisiaethau, a 150 i holi am dai. Rhoddwyd cefnogaeth y Gwasanaeth Ieuenctid i 20 o bobl ifanc.

Dangoswyd effaith Bargen Torfaen trwy gydol y dydd, gan gynnwys gwirfoddolwyr oTasty Not Wasty a Torfaen Ewch Am Dro ac enghreifftiau o gyfleoedd i wirfoddoli gyda Chynghrair Gwirfoddol Torfaen.

Roedd amrywiaeth eang o wasanaethau'r Cyngor wrth law i roi cyngor a chefnogaeth. Denodd cynllun prentisiaeth y Cyngor ddiddordeb mawr gan bobl ifanc, a rhannodd y tîm tai wybodaeth am y rhaglen Allweddi Annibyniaeth. Fe fu’r gwasanaeth ieuenctidhefyd yn difyrru ymwelwyr ifancach gydag amrywiaeth o weithgareddau.

Fe fu Halo Leisure yn hyrwyddo cyfleoedd iechyd a llesiant ac yn cynnig cyfle i ymwelwyr ennill tri mis o aelodaeth am ddim, gydag enw’r enillydd, o blith y rheiny a lenwodd holiadur byr am Y Fargen, yn cael ei dynnu o’r het.

Fe fu ymwelwyr hefyd yn mwynhau pori yn siop dros dro y Steelhouse gan Wastesavers, ac fe fu Llyfrgell Cwmbrân yn arddangos y gwasanaethau a'r gweithgareddau i blant, pobl ifanc a theuluoedd sydd ar gael trwy ei hwb lleol.

Daeth Pentref Bargen Torfaen ag amrywiaeth o wasanaethau at ei gilydd mewn un lle croesawgar, gan ei gwneud yn haws i drigolion gael sgyrsiau wyneb yn wyneb am yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw, a mynediad at gymorth yn eu cymuned.

Bydd cyfle arall i drigolion a gollodd y digwyddiad i ymweld â Phentref Bargen Torfaen yn y Parti yn y Parc ym Mhont-y-pŵl ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf.

Am ragor o wybodaeth am Fargen Torfaen, ewch i: Y Fargen: Torfaen | Cymryd Rhan Torfaen (yn agor mewn tab newydd)

Am gyfleoedd i wirfoddoli, ewch i Cysylltu Torfaen (yn agor mewn tab newydd).

Gwyliwch uchafbwyntiau Pentref Bargen Torfaen (yn agor mewn tab newydd)