Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Cyhoeddi enillwyr Sialens Ddarllen yr Haf

Year 1 pupil Hallie holding a certificate

Mae tri darllenydd ifanc wedi cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion wedi iddynt gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf eleni.

Roedd dros 900 o blant, rhwng pedair ac 11 oed, wedi cofrestru i ddarllen neu wrando ar chwech neu fwy o lyfrau llyfrgell dros yr haf, gan gasglu gwobrau fel sticeri, cylchgronau a bagiau llyfrau ar hyd y ffordd.

Hallie, disgybl o Flwyddyn 1 yn Ysgol Gynradd Croesyceiliog, yw’r enillydd eleni, ac mae wedi cael tocyn rhodd gwerth £100 ar ôl i'w henw gael ei dynnu ar hap o blith enwau pawb a gwblhaodd y Sialens.

Roedd y thema eleni, Cyfrolau’n Canu, yn dathlu creadigrwydd a hunanfynegiant trwy lyfrau wedi'u hysbrydoli gan gerddoriaeth, dawns ac adrodd straeon.

Enillodd disgybl o Flwyddyn 2, sef Arabella, o Ysgol Gynradd Cwmffrwdoer, ac Isaac, disgybl ym Mlwyddyn 1 yn Ysgol Gynradd Griffithstown, docynnau sinema hefyd ar ôl cael eu dewis ar hap o blith y plant a oedd wedi cofrestru ar gyfer y Sialens.

Efallai bod y Sialens drosodd am eleni, ond mae llawer mwy yn digwydd yn Hybiau Cymunedol a Llyfrgelloedd Torfaen.

Yn ystod hanner tymor mis Hydref, bydd llyfrgelloedd ym Mlaenafon, Cwmbrân a Phont-y-pŵl yn cyflwyno cyfres o sesiynau stori a chrefft a byddant yn croesawu Experimental Science, sy'n cynnal sesiynau Gwyddoniaeth Ddychrynllyd.

Gall trigolion hefyd alw heibio trwy gydol y flwyddyn am gymorth technegol a rhaglen gynyddol o ddigwyddiadau cymunedol, yn ogystal ag archebu diod boeth o Coffi Cart sydd newydd ei lansio.

Ac nid llyfrau yn unig sydd ar gael i'w benthyg; mae’r eitemau’n cynnwys offer chwaraeon ac iwcalilis hefyd.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, "Llongyfarchiadau i Hallie, Arabella ac Isaac, ac i bawb a gymerodd ran yn y Sialens eleni. Mae'n wych gweld cymaint o bobl ifanc yn darganfod llyfrau ac yn eu mwynhau.

"Mae darllen yn helpu i fagu hyder, creadigrwydd a chariad gydol oes at ddysgu, ac mae ein llyfrgelloedd yn lleoedd gwych i barhau â'r daith honno. Gyda chymaint mwy na llyfrau ar gael, buaswn yn annog pawb i ymweld â'u llyfrgell leol."

Ddim yn aelod o'r llyfrgell eto? Gallwch ymaelodi’n rhad ac am ddim a gallwch gofrestru yn eich llyfrgell leol.

Am ragor o wybodaeth am weithgareddau a gwasanaethau, ewch i'ch llyfrgell leol, dilynwch Torfaen Libraries ar Facebook neu ffoniwch 01633 647676.