
Mae cannoedd o blant yn achub y blaen ar yr ysgol uwchradd cyn i'r tymor newydd ddechrau ym mis Medi.
Mae tua 200 o ddisgyblion yn mynychu gwersylloedd pontio dros wyliau'r haf, yn Ysgol Abersychan, Ysgol Gorllewin Mynwy ac Ysgol Uwchradd Cwmbrân
Mae’r gwersylloedd yn cael eu rhedeg gan Wasanaeth Chwarae Cyngor Torfaen, ac wedi'u cynllunio i helpu'r bobl ifanc i fagu hyder, gwneud ffrindiau newydd a theimlo'n barod i ddechrau ym Mlwyddyn 7.
Mae llawer yn dysgu eu ffordd o gwmpas yr adeiladau, yn cwrdd â staff, ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau adeiladu tîm, o sgiliau syrcas i heriau gêmau bwrdd enfawr.
Meddai Frankie, 11, o Ysgol Gynradd Griffithstown, a fydd yn mynychu Ysgol Gorllewin Mynwy: "Mae wedi fy helpu i deimlo'n llai pryderus am ddechrau ym Mlwyddyn 7, ac rydw i wedi cwrdd â phobl sydd hefyd yn mynd i fod yn fy nosbarth cofrestru i.”
Meddai Isla, 11, o Ysgol Gynradd New Inn: "Rydw i wedi cyfarwyddo â'r adeilad ac wedi gwneud ffrindiau newydd. Rydw i hefyd wedi cwrdd â'r cogydd yn y gegin ac wedi cael blas ar y bwyd.”
Mae'r plant hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithdai a phrofiadau, gan gynnwys sesiynau diogelwch ar y ffyrdd, cwrdd ag anifeiliaid, gweithgareddau ymwybyddiaeth am fyddardod, gweithdai rap a phrosiectau celfyddydau creadigol.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen yn cefnogi'r gwersylloedd gyda gweithgareddau, gan gynnwys celf wal graffiti, prosiectau adeiladu cert a rasau rhwystrau.
Meddai Oliver, 11, o Ysgol Gynradd Grffithstown: "Roedd adeiladu’r cert mor cŵl, a galla i ddim aros i'w yrru. Dylwn i fod yn fecanig pan fydda’ i’n hŷn.”
Bydd llawer o'r bobl ifanc sy'n mynychu yn dal i allu mynd i glybiau a gweithgareddau ieuenctid trwy gydol y flwyddyn.
Mae'r gwersylloedd yn rhan o raglen Bwyd a Hwyl ehangach Torfaen, sy'n cael ei chynnal mewn 18 ysgol ar draws y Fwrdeistref yr haf hwn. Mae mwy na 3,000 o blant wedi elwa ers iddi ddechrau ar 27 Gorffennaf.
Daw rhaglen yr haf yn sgil lansio ymgyrch newydd Cyngor Torfaen, Barod ar gyfer yr Ysgol, yn ddiweddar. Mae’n helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi plant trwy flynyddoedd pontio allweddol, o'r meithrin i'r ysgol uwchradd.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau: "Mae symud i'r ysgol uwchradd yn garreg filltir bwysig i bobl ifanc a gall fod yn adeg gyffrous a brawychus.
"Mae'r gwersylloedd hyn yn helpu plant i deimlo'n gyfforddus yn eu hamgylchedd newydd, gwneud ffrindiau a magu hyder cyn i dymor yr Hydref ddechrau.
"Mae'r fenter yn helpu plant a'u teuluoedd i deimlo'n wybodus ac wedi’u cefnogi a'u paratoi ar gyfer y bennod nesaf yn eu haddysg.”
Am gyngor a chymorth ymarferol i helpu'ch plentyn trwy flynyddoedd pontio allweddol, ewch i’r tudalennau Paratoi ar gyfer yr Ysgol ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen yn www.torfaenfis.org.uk (yn agor mewn tab newydd)