Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Sefydlu grŵp cymunedol yn sgil trasiedi

Members of the Blaenavon Community Voice committee in a room with two sat down and two standing

Mae menyw y rhoddwyd cefnogaeth i’w theulu yn dilyn llofruddiaeth ei mab, wedi sefydlu grŵp cymunedol i helpu eraill.

Cafodd Duane, 47, mab Sandra Keen, ei ladd gan ddyn, mewn fflat ym Mlaenafon fis Hydref diwethaf.

Yn sgil marwolaeth Duane, dechreuodd Sandra ymgyrchu dros wneud mwy i sicrhau bod pobl yn cael eu hailgartrefu'n briodol.

Aeth ati hefyd i sefydlu Blaenavon Community Voice i gefnogi pobl sydd angen cyngor neu help llaw, ac i gefnogi trigolion sy’n agored i niwed.

Meddai Sandra, sydd ar y dde yn y llun: "Cefais i a fy nheulu cymaint o gefnogaeth wych gan y gymuned leol ar ôl i Duane gael ei ladd, y cyfan rydw i am ei wneud yw rhoi rhywbeth yn ôl.

"Pan ofynnwyd i mi a fyddwn i'n fodlon dod yn arweinydd cymunedol, rhoddais fy syniadau ar bapur a gweithio gyda thîm Cymunedau'r cyngor a Chynghrair Gwirfoddol Torfaen i sefydlu'r grŵp.

"Rydym bellach yn rhedeg caffi cymdeithasol mewn gwahanol leoliadau o amgylch y dref unwaith y mis, lle gall pobl ddod i siarad yn gyfrinachol â gwahanol sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth, yr heddlu, a'r cyngor.

"Rydym hefyd yn cynnal grwpiau wythnosol i ddynion a menywod, ac rydym yn gobeithio lansio caffi i bobl ifanc yn eu harddegau yn y Flwyddyn Newydd.

"Mae Blaenafon yn gymuned glos iawn, ac rydw i eisiau dod ag ychydig o obaith i bobl eraill yn yr un ffordd ag y gwnaethon nhw i ni."

Rhoddwyd Grant Cymorth Tai gwerth £3,300 i’r grŵp, i helpu gyda’r costau sefydlu, ac yn ddiweddar cawsant £300 gan Gyngor Tref Blaenafon i baratoi 100 o becynnau gaeaf ar gyfer oedolion a phlant sy'n agored i niwed.

Byddant yn cefnogi digwyddiad coeden Nadolig Friend’s of the Green’s ddydd Gwener 28 Tachwedd ac maen nhw wrthi’n cynllunio digwyddiad Mae Gan Flaenafon Dalent, yn y gwanwyn.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch Blaenavon Community Vo (yn agor mewn tab newydd)ice ar Facebook.