Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Mae Apêl Siôn Corn eich angen chi

Santa Appeal cartoon graphic

Lledaenwch rywfaint o lawenydd yr ŵyl eleni drwy gyfrannu at Apêl Siôn Corn Torfaen eleni, a agorodd heddiw.

Mae'r apêl flynyddol yn casglu anrhegion newydd, heb eu lapio, i blant a phobl ifanc rhwng 0 a 21 oed a fyddai fel arall yn colli allan adeg y Nadolig.

Dan ofal timau gwasanaethau cymdeithasol 15+ a gwasanaethau plant y cyngor, bydd yr apêl yn mynd eleni tan 7 Rhagfyr 2026.

Mae trigolion sydd am gyfrannu’n cael eu hannog i ffonio'r llinell ffôn berthnasol am awgrymiadau ar gyfer anrhegion sy'n briodol ar gyfer oedrannau gwahanol:

  • I blant 0–14 oed, ffoniwch 01495 766691
  • I bobl ifanc 15–21 oed, ffoniwch 01633 647539

Mae llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau, rhwng 9am a 4pm.

Gellir gollwng anrhegion newydd, heb eu lapio yn y lleoliadau dynodedig canlynol:

  • TYPSS Tŷ Pontsychan, 12 Old Road, NP4 7BA Dydd Mawrth: 9am–5pm
  • Llyfrgell Cwmbrân, Tŷ Gwent, Gwent Square, NP44 1XQ Dydd Llun a Dydd Mawrth: 9am–5.30pm Dydd Iau: 8.45am–7pm Dydd Gwener: 8.45am–6pm Dydd Sadwrn: 8.45am–1pm
  • Swyddfeydd Rheoli Canolfan Cwmbrân, Derbynfa, Llawr 1, 17–22 The Parade (uwchben Douglas Willis, Cigydd) Dydd Mercher: 10am–2pm
  • Y Ganolfan Ddinesig, Glantorvaen Road, Pont-y-pŵl, NP4 6YN Dydd Mawrth: 10am–2.30pm
  • Circulate Blaenavon, Pont-y-pŵl, NP4 9RL Dydd Llun i Ddydd Gwener: 9am–4.30pm
  • Co-star, Canolfan Gymunedol y Pishyn Tair, Cwmbrân, NP44 4SX Dydd Llun: 10am–3pm
  • Marchnad Pont-y-pŵl, Pont-y-pŵl, NP4 6JW Dydd Llun: 8am–2pm dydd Mawrth i Ddydd Gwener: 8am–5pm Dydd Sadwrn: 8am–3pm

Croesewir rhoddion bwyd hefyd i bobl ifanc 15–21 oed.

Y llynedd, cafodd miloedd o anrhegion eu rhoi a’u dosbarthu i fwy na 300 o blant a phobl ifanc sy’n cael cymorth gan y gwasanaeth.

Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae pobl a busnesau ledled Torfaen yn dangos haelioni anhygoel trwy gefnogi Apêl Siôn Corn. Mae pob rhodd yn golygu cymaint i blentyn neu berson ifanc adeg y Nadolig.

"Os ydych chi'n gallu cyfrannu eleni, bydd eich rhodd yn ein helpu i wneud y Nadolig ychydig yn well i deuluoedd lleol sydd angen rhywfaint o gefnogaeth ychwanegol.”