Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Sul y Cofio

Illustrated graphic of poppies and soldiers, with the wording Lest We Forget, Remembrance Sunday

Cynhelir nifer o ddigwyddiadau coffa ar draws Torfaen ddydd Sul 8 Tachwedd i anrhydeddu'r rheiny sydd wedi gwasanaethu ac wedi aberthu wrth frwydro, ddoe a heddiw.

Mae Sul y Cofio yn achlysur cenedlaethol sy'n dod â chymunedau at ei gilydd i gofio aelodau o'r Lluoedd Arfog sydd wedi colli eu bywydau wrth frwydro, yn ogystal â'r rheiny sy'n gwasanaethu o hyd.

Ar draws y DU, mae'n cael ei nodi'n draddodiadol gyda gorymdeithiau, seremonïau gosod plethdorchau, gwasanaethau a dwy funud o dawelwch am 11am.

Cynhelir gorymdeithiau yn Nhorfaen yn y lleoliadau canlynol:

  • Blaenafon – 10.40am: Gorymdaith o'r Maes Parcio Uchaf, gan orymdeithio ar hyd Broad Street ac Ivor Street i'r Senotaff. 11am: Gosod plethdorchau a gwasanaeth yn y Senotaff.
  • Cwmbrân – 10.20am: Yr orymdaith yn ymgynnull ar Clomendy Road/Wesley Street cyn gorymdeithio i Cocker Avenue a Pharc Cwmbrân ar gyfer Gwasanaeth y Cofio am 10.50am.
  • Y Dafarn Newydd – 10am: Yr orymdaith yn ymgynnull yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, The Highway, cyn symud i Eglwys y Santes Fair ar gyfer gwasanaeth. Yna bydd yr orymdaith yn dychwelyd i Neuadd Eglwys y Santes Fair.
  • Pontnewydd – 10.30am: Gorymdaith o TS Kittiwake, Mount Pleasant Road, ar gyfer seremoni gosod plethdorchau a gwasanaeth yn y Senotaff am 11am.
  • Pont-y-pŵl – 11.45am: Yr orymdaith yn ymgynnull ar Commercial Street yng nghanol tref Pont-y-pŵl cyn symud i Gatiau Coffa Parc Pont-y-pŵl ar gyfer gwasanaeth a gosod plethdorchau am 12pm.

Anogir trigolion i ddod i ddangos eu parch, ond dylent ganiatáu amser ychwanegol i deithio oherwydd y trefniadau sydd ar waith i gau ffyrdd dros dro i hwyluso’r gorymdeithiau.

Mae rhestr o’r ffyrdd sydd ar gau dros dro ar wefan Cyngor Torfaen.

Cynhelir nifer o wasanaethau eraill hefyd ar Sul y Cofio, ac anogir trigolion i edrych ar wefannau eu neuaddau eglwys, plwyf neu gymuned lleol, a thudalennau cyfryngau cymdeithasol, am fanylion.

Bydd Diwrnod y Cadoediad yn dilyn ddydd Mercher 11 Tachwedd, i goffáu'r foment y distawodd y gynnau ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1918, gyda distawrwydd cenedlaethol o ddwy funud am 11am.

Meddai’r Cynghorydd Gaynor James, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Torfaen:

"Mae’r cofio yn gyfle i ni oedi a meddwl yn ddwys am ddewrder pob un sydd wedi gwasanaethu ein gwlad, ac aberthu drosti.

"Mae’n deimladwy bob tro pan fydd pobl o bob oed yn dod at ei gilydd ar draws Torfaen i ddangos eu parch ac i sicrhau nad yw cymuned y lluoedd arfog yn cael ei hanghofio."